Safeguarding Policy

Cyflwyniad

Mae Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion Agored i Niwed yn flaenoriaeth i ni; rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau i gadw pobl yn ddiogel o ddifrif. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu polisi Theatr Clwyd ar nodi ac ymateb i bryderon ynghylch diogelu ac amddiffyn Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion.

Mae “Diogelu” yn gysyniad ehangach nag amddiffyn Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion Agored i Niwed ac mae’n ymdrin â hyrwyddo’r canlynol:

  • Iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol
  • Amddiffyn rhag niwed ac esgeulustod
  • Addysg, hyfforddiant a hamdden
  • Cyfraniad at gymdeithas
  • Lles cymdeithasol ac economaidd

Mae’n cynnwys popeth y gallwn ei wneud i gadw pobl yn ddiogel, gan gynnwys lleihau’r risg o niwed a damweiniau, cymryd camau i fynd i’r afael â phryderon diogelwch, a sicrhau bod pobl yn tyfu i fyny ac yn byw mewn amgylchiadau diogel.

Mae cadw Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion yn ddiogel yn fusnes i bawb, rydym i gyd yn rhannu cyfrifoldeb i ddiogelu a hyrwyddo lles y bobl rydym yn gweithio gyda nhw ac ar eu cyfer a’u hamddiffyn rhag eraill a allai eu cam-drin.

Mae gan holl aelodau’r cwmni, ymddiriedolwyr, contractwyr, gweithwyr llawrydd a gwirfoddolwyr sy’n dod ar draws Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion Agored i Niwed yn eu gwaith ddyletswydd o ofal i ddiogelu a hyrwyddo eu lles ac i weithio i atal, canfod ac adrodd am esgeulustod a cham-drin. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i aelodau cwmni Theatr Clwyd, gweithwyr llawrydd, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, a sefydliadau a gomisiynir i ddarparu gwasanaethau ar ran y theatr.

Byddwn yn sicrhau ein bod yn amddiffyn Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion rhag cael eu cam-drin; atal amharu ar iechyd neu ddatblygiad plant neu oedolion; sicrhau bod Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion yn tyfu i fyny mewn amgylchiadau sy'n gyson â darparu gofal diogel ac effeithiol; a gweithredu i alluogi pob Plentyn, Person Ifanc ac Oedolyn i gael y cyfleoedd gorau mewn bywyd.

Datganiad Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion Agored i Niwed

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru’r rheolau ynghylch yr hyn sydd ei angen i ddiogelu plant sy’n cymryd rhan mewn dramâu, sioeau, modelu a pherfformiadau a gweithgareddau eraill, boed y plant hynny’n cael eu talu am gymryd rhan ai peidio. Mae’r Rheoliadau, Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015 (‘y Rheoliadau’) a’r canllawiau Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel (Llywodraeth Cymru, 2015) yn nodi ac yn egluro’r rheolau hyn. I'r rhai sy'n ymwneud â chynhyrchu, rheoli a threfnu perfformiadau neu weithgareddau sy'n cynnwys plant, mae'r ddogfen hon yn darparu rhywfaint o wybodaeth ychwanegol ac enghreifftiau i helpu i gynllunio i gadw plant yn ddiogel, yn ogystal â manylion rhai o'r materion a allai godi.

Darllenwch a dilynwch y gweithdrefnau newydd, Gweithdrefnau Diogelu Cymru, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2020. Maent ar gael yn ddigidol, ar blatfform a gefnogir ar hyn o bryd gan Ofal Cymdeithasol Cymru: www.diogelu.cymru ac fel Ap am ddim sydd ar gael ar gyfer Android ac iOs:

https://apps.apple.com/gb/app/wales-safeguarding-procedures/id1480837394

Bydd y ddau fformat yn caniatáu i chi ddod o hyd i'r wybodaeth neu'r arweiniad penodol sydd arnoch eu hangen yn gyflym, pan fydd arnoch eu hangen. Manylir ar yr wybodaeth mewn fformat clir a hygyrch.

Bwriad y ddogfen hon yw hyrwyddo diogelwch a lles yr holl bobl ifanc a’r oedolion agored i niwed sy’n perfformio neu’n cefnogi cwmnïau cymunedol / cynyrchiadau ysgol yn Theatr Clwyd, neu sy’n ymwneud â’n gweithdai neu wersi cerddoriaeth, er mwyn sicrhau eu bod yn cael profiad gwerth chweil. Fel rhan o’n Polisi Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion Agored i Niwed, mae Theatr Clwyd wedi paratoi’r canllawiau canlynol ar gyfer cwmnïau cymunedol, arweinwyr grŵp ac athrawon sy’n dod â grwpiau o bobl ifanc i’r theatr ar gyfer perfformiadau.

Mae’n hanfodol bod trefnwyr digwyddiadau gyda Phlant, Pobl Ifanc ac Oedolion – gan gynnwys sefydliadau cymunedol, grwpiau cymunedol ac ysgolion - yn cynnal perthynas waith agos gyda’r awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ddiogelu plant a pherfformiadau plant. Mae'n well i drefnwyr ac awdurdodau weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod plant yn cael eu diogelu'n briodol wrth ganiatáu iddynt gymryd rhan mewn perfformiadau a gweithgareddau.

Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, yn y ddogfen hon mae'r termau 'plentyn' a 'Phobl Ifanc' yn cyfeirio at unrhyw un hyd at 18 oed. Mae'r un canllawiau, polisïau a gweithdrefnau yn cael eu cymhwyso i oedolion agored i niwed.

Diffiniadau ac arwyddion o gam-drin

Dylai holl aelodau'r Cwmni a’r gwirfoddolwyr fod yn ymwybodol nad yw cam-drin, esgeulustod a phroblemau diogelu yn ddigwyddiadau ar eu pen eu hunain yn aml, y gellir eu cwmpasu gan un diffiniad neu label. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd problemau lluosog yn gorgyffwrdd â'i gilydd. Mae’n bwysig i aelodau cwmni wahaniaethu rhwng niwed sylweddol ‘gwirioneddol’ a’r tebygolrwydd o niwed sylweddol. Rydym yn cydnabod y gall Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion gael eu niweidio’n gorfforol, yn emosiynol, yn rhywiol neu drwy esgeulustod. Mae’n ddyletswydd arnom ni i roi gwybod am unrhyw bryderon sydd gennym am gam-drin pobl ifanc a/neu oedolion gan fod iechyd, diogelwch ac amddiffyn pob Plentyn, Person Ifanc ac Oedolyn yn hollbwysig.

Mae’r canlynol yn fathau o gam-drin ac esgeulustod:

Cam-drin: ffurf ar gam-drin Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion. Gall rhywun gam-drin neu esgeuluso Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion drwy achosi niwed neu drwy fethu â gweithredu i atal niwed. Gall Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion gael eu cam-drin mewn teulu neu mewn lleoliad sefydliadol neu gymunedol gan y rhai y maent yn eu hadnabod neu, yn llai aml, gan eraill (e.e. drwy’r rhyngrwyd). Gallant gael eu cam-drin gan oedolyn neu oedolion neu gan Blant, Pobl Ifanc ac Oedolion eraill.

Cam-drin corfforol: math o gam-drin a all gynnwys taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi neu sgaldio, boddi, mygu neu achosi niwed corfforol fel arall i Blant, Pobl Ifanc ac Oedolion. Gall rhai o'r arwyddion canlynol fod yn arwyddion o gam-drin corfforol: Pobl Ifanc neu oedolion heb esboniad am: cleisiau neu friwiau; llosgiadau neu sgaldiadau; neu farciau brathu.

Cam-drin emosiynol: cam-drin Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion yn emosiynol yn barhaus er mwyn achosi effeithiau difrifol a niweidiol ar ddatblygiad emosiynol y plentyn. Gall gynnwys cyfleu i Blant, Pobl Ifanc ac Oedolion eu bod yn ddi-werth neu nad oes neb yn eu caru, eu bod yn annigonol, neu'n cael eu gwerthfawrogi dim ond i'r graddau eu bod yn diwallu anghenion person arall. Gall gynnwys bwlio difrifol (gan gynnwys seibrfwlio), achosi i Blant, Pobl Ifanc ac Oedolion deimlo’n ofnus neu mewn perygl yn aml, neu lygru neu gamfanteisio ar Blant, Pobl Ifanc ac Oedolion. Gall rhai o'r arwyddion canlynol fod yn arwyddion o gam-drin emosiynol: Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion sy'n fewnblyg iawn, yn ofnus neu'n bryderus ynghylch gwneud rhywbeth o'i le; Rhieni neu ofalwyr sy’n tynnu eu sylw oddi wrth eu plentyn, yn oeraidd.

Cam-drin rhywiol: yn ymwneud â gorfodi neu hudo Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, nad ydynt o reidrwydd yn ymwneud â lefel uchel o drais, os yw’r person ifanc a/neu’r oedolyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ai peidio. Gall y gweithgareddau gynnwys cyswllt corfforol, gan gynnwys ymosodiad trwy dreiddiad (er enghraifft treisio neu ryw geneuol) neu weithredoedd anhreiddiol fel mastyrbio, cusanu, rhwbio a chyffwrdd y tu allan i ddillad. Gallant hefyd gynnwys gweithgareddau digyswllt, fel cynnwys plant wrth edrych ar, neu wrth gynhyrchu, delweddau rhywiol, (gan gynnwys dros y rhyngrwyd). Gall rhai o’r arwyddion canlynol fod yn arwyddion o gam-drin rhywiol: Plant sy’n dangos gwybodaeth neu ddiddordeb mewn gweithredoedd rhywiol sy’n amhriodol i’w hoedran.

Esgeulustod: methiant parhaus i ddiwallu anghenion corfforol a/neu seicolegol sylfaenol Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion, sy’n debygol o arwain at nam difrifol i iechyd neu ddatblygiad Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion. Gall rhai o'r arwyddion canlynol fod yn arwyddion o esgeulustod: Plant sy'n byw mewn cartref sy'n ddiamau yn fudr neu'n anniogel.

Mathau Penodol Eraill o Gam-drin a/neu Ystyriaethau Diogelu

  • Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion yn y system llysoedd
  • Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion gydag aelodau o'r teulu yn y carchar
  • Camfanteisio troseddol ar Blant, Pobl Ifanc: cyffurlinellau
  • Digartrefedd

Caethwasiaeth Fodern: trosedd ddifrifol a chudd yn aml lle mae pobl yn cael eu hecsbloetio er budd troseddol. Gall yr effaith fod yn ddinistriol i'r dioddefwyr. Mae caethwasiaeth fodern yn cynnwys caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur gorfodol a masnachu mewn pobl. Nid yw holl ddioddefwyr caethwasiaeth fodern yn cael eu masnachu dros y ffin. Mae masnachu dioddefwyr yn fewnol i rannau eraill o'r DU yn digwydd, a cheir mathau eraill o gaethwasiaeth fodern heb i’r dioddefwr symud o gwbl. Gellir dod o hyd i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern yn unrhyw le. Mae rhai diwydiannau lle maent yn fwy cyffredin ar hyn o bryd, fel bariau ewinedd, safleoedd golchi ceir, amaethyddiaeth, safleoedd adeiladu a'r diwydiant rhyw. Y mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol (NRM) yw’r fframwaith ar gyfer adnabod a chefnogi dioddefwyr posibl masnachu mewn pobl a chaethwasiaeth fodern. Gall unrhyw un lawrlwytho’r Ap “Unseen” ar eu dyfeisiau symudol, sydd ar gael o www.modernslaveryhelpline.org. Mae hwn yn darparu gwybodaeth am arwyddion corfforol a seicolegol i fod yn ymwybodol ohonynt mewn dioddefwyr yn ogystal ag amgylcheddau lle mae caethwasiaeth fodern yn digwydd.

Terfysgaeth: Os ydych yn pryderu am unigolyn yn cael ei ddenu at derfysgaeth gallwch hysbysu Llinell Gymorth yr Heddlu ar 0800 789 321 neu gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru os oes gennych chi bryderon neu am unrhyw gyngor pellach: Rhif Ffôn: 01745 588814 est. 88814 E-bost: Prevent@nthwales.pnn.police.uk

Plant a Phobl Ifanc ac Oedolion sy'n arbennig o agored i niwed neu gam-drin

Rydym yn arbennig o effro i’r angen posibl am gymorth cynnar ar gyfer Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion sydd: yn anabl ac ag anghenion ychwanegol penodol, yn ofalwyr ifanc, yn y system ofal (o bosibl dan arweiniad gweithiwr cymdeithasol), sy’n dangos arwyddion o gael eu denu at ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddol, yn aml ar goll/yn mynd ar goll o ofal neu o gartref; sydd mewn perygl o gaethwasiaeth fodern, masnachu mewn pobl neu gamfanteisio; mewn perygl o gael eu radicaleiddio neu eu hegsbloetio; sydd mewn sefyllfa deuluol sy’n cyflwyno heriau i’r plentyn, fel cam-drin sylweddau, problemau iechyd meddwl oedolion neu gam-drin domestig; yn camddefnyddio cyffuriau neu alcohol eu hunain; yn dangos arwyddion cynnar o gam-drin a/neu esgeulustod. Mae rhagor o fanylion am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) ar gael yn https://www.safeguarding.wales/index.html

Hunan-niweidio

Gofynnir i holl aelodau'r cwmni gadw llygad am arwyddion o hunan-niweidio. Mae llawer o bobl sy’n hunan-niweidio yn ei chael yn anodd siarad am sut maen nhw’n teimlo, ac efallai eu bod wedi rhwystro neu wahanu oddi wrth eu teimladau o boen, brifo, dicter, ac ati. Gellir defnyddio hunan-niweidio fel ffordd o deimlo rhywbeth yn gorfforol na allant ei deimlo'n emosiynol. Nid yw'n anghyffredin i berson sy'n hunan-niweidio ddweud nad yw'n ddig ond yn aml mae llawer iawn o ddicter y tu mewn iddo ac mae’n ei droi i mewn arno ei hun. Mae hunan-niweidio yn ffordd o ymdopi – er mwyn i rywun roi’r gorau i hunan-niweidio mae angen iddo gael help i ddod o hyd i ffyrdd eraill o ymdopi, a ffyrdd o gysylltu â’i deimladau mewn amgylchedd cefnogol. Mae yna hefyd nifer o wefannau sy'n darparu gwybodaeth a chefnogaeth i bobl sy'n hunan-niweidio. https://www.supportline.org.uk/problems/self-injury-and-self-harm/

Swyddogaethau a Chyfrifoldebau

Mae gan bob ymddiriedolwr, pob aelod cwmni a phob gwirfoddolwr gyfrifoldeb i gadw at y gweithdrefnau a’r canllawiau a nodir yn y polisi hwn. Drwy ddilyn y gweithdrefnau a’r canllawiau cywir, mae modd sicrhau bod y camau priodol yn cael eu gweithredu i ddelio ag unrhyw honiad neu bryder. Mae gweithdrefnau'n cael eu cynllunio a'u cyflwyno mewn ffordd sy'n diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion, ac i sicrhau y gall aelodau'r cwmni ymddwyn yn ddiogel. Y Cyfarwyddwr Gweithredol a’r Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol (y DSLs presennol) sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau bod polisi a gweithdrefnau diogelu effeithiol ar waith ar gyfer Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion a’u bod yn cael eu gweithredu. Cefnogir y rôl hon gan y Tîm Diogelu.

Mae Theatr Clwyd yn dilyn y Gweithdrefnau ar gyfer Diogelu yng Nghymru. Mae holl aelodau'r cwmni sy'n gweithio yn y theatr wedi derbyn hyfforddiant diogelu.

Mae gan Theatr Clwyd Dîm Diogelu, y gellir cysylltu ag ef os oes angen:

  • Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol a Swyddog Amddiffyn Plant / 01352 701559 / 07850005666 liam.evansford@theatrclwyd.com Arweinydd DIOGELU DSL)
  • Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol / 01352 701575 / 07377165950 gwennan.mair@theatrclwyd.com Arweinydd DIOGELU DSL)
  • Andrew Roberts, Cyfarwyddwr Cyllid, Gweithrediadau a Phobl
  • Aled Marshman / Emily Rowell, Cerddoriaeth

Hannah Lobb, Pennaeth Cynhyrchu

Tom Hayes / Emma King, Ymgysylltu Creadigol

Manylion cyswllt allanol allweddol

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant yr Awdurdod Lleol Ffôn: 01824 712 200

TÎM DYLETSWYDD ARGYFWNG Y TU ALLAN I ORIAU RHIF FFÔN: 0345 053 3116

CAMHS Gogledd Cymru 03000 856 023

Childline 0800 1111

Y Samariaid 08457 90 90 90

Aelodau Cwmni a Gwirfoddolwyr

Mae holl aelodau’r cwmni a’r gwirfoddolwyr yn gyfrifol am gyflawni eu dyletswyddau mewn modd sy’n diogelu a hyrwyddo lles Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion. Rhaid iddynt hefyd weithredu mewn ffordd sy'n eu hamddiffyn rhag honiadau ffug o gam-drin cyn belled ag y bo modd ac yn unol â'r polisi hwn. Rhaid iddynt roi gwybod am faterion sy’n peri pryder ynghylch diogelwch a lles Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion i’w rheolwr, neu i aelod o’r tîm diogelu. Nid cyfrifoldeb unigolyn yw penderfynu a yw person wedi cael ei gam-drin ai peidio.

Rheolwyr Llinell

Mae pob Rheolwr Llinell yn gyfrifol am sicrhau bod aelodau'r cwmni maent yn gyfrifol amdanynt yn derbyn yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt, sy'n gymesur â'u cyfrifoldebau.

Recriwtio mwy diogel

Mae'r Theatr wedi ymrwymo i brosesau recriwtio mwy diogel. Mae aelodau’r cwmni, gan gynnwys aelodau rhan amser o’r cwmni, aelodau dros dro ac aelodau cyflenwi, ac aelodau’r cwmni sy’n ymweld, yn ddarostyngedig i’r archwiliadau amddiffyn Plant statudol angenrheidiol cyn dechrau gweithio, gofynnir am ddau ganolwr ar gyfer yr holl gyflogeion, caiff canolwyr eu ffonio ar ôl derbyn Diogelu ac Amddiffyn Plant. Mae pob cyflogai yn cael archwiliad hawl i weithio. Ar gyfer pob penodiad yn y Gwasanaethau Ymgysylltu Creadigol a Cherddoriaeth bydd archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyda gwybodaeth 'rhestr waharddedig' yn briodol. Bydd tystysgrif DBS yn cael ei sicrhau gan yr ymgeisydd cyn neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl ei benodi. Mae aelodau priodol y cwmni wedi derbyn hyfforddiant “Recriwtio Mwy Diogel”.

Y Broses Adrodd

Gall adnabod ac adrodd am amheuaeth ynghylch cam-drin fod ar ffurf ‘pryderon’ yn hytrach na ‘ffeithiau hysbys’. Er na fydd pryderon o reidrwydd yn sbarduno ymchwiliad, maent yn helpu i greu darlun, ynghyd â phryderon o ffynonellau eraill, a all awgrymu y gallai’r unigolyn fod yn dioddef niwed.

Dylai aelodau’r cwmni sydd â phryderon ynghylch diogelwch unigolyn, neu ymddygiad cydweithiwr tuag at Blant, Pobl Ifanc ac Oedolion, neu sy’n derbyn honiadau o gam-drin posibl yn erbyn cydweithiwr, gofalwr, gwirfoddolwr neu asiantaeth roi gwybod ar unwaith i’r arweinydd Diogelu (DLS) (Cyfarwyddwr Gweithredol a Chyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol ar hyn o bryd) drwy eu ffonio ac wedyn dilyn hynny i fyny gydag adroddiad COCH ysgrifenedig.

Dylid rhannu pryderon cyn gynted ag y daw problem, amheuaeth neu bryder am Blant, Pobl Ifanc ac Oedolion i’r amlwg, ac yn sicr o fewn 24 awr. Bydd hyn yn sicrhau bod y risgiau'n cael eu rheoli a bod camau priodol yn cael eu hystyried. Nid yw’n opsiwn ‘aros i weld’ na diystyru’r pryder gan nad yw’n berthnasol.

Ni ddylai aelodau'r cwmni wneud y canlynol

  • ymchwilio neu ofyn cwestiynau arweiniol.
  • cytuno i'w gadw'n gyfrinach neu addo cyfrinachedd ond dylai roi sicrwydd y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu ar sail angen yn unig fel bod posib ymchwilio i'r mater er mwyn cadw Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion eraill yn ddiogel.
  • cyffwrdd neu glirio tystiolaeth.
  • gwneud rhagdybiaethau neu gynnig esboniadau amgen.
  • cysylltu â'r camdriniwr honedig.
  • siarad ag aelodau eraill o'r cwmni, cynghorwyr, ffrindiau, neu ddefnyddwyr gwasanaeth am y wybodaeth sydd wedi'i rhannu gyda chi.

Rhaid cysylltu â’r Heddlu ar 999 ar unwaith os yw’r Plentyn, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn perygl.

Bydd unrhyw faterion diogelu yn cael eu cofnodi yn y cyfarfodydd diogelu sy’n digwydd o leiaf 4 gwaith y flwyddyn.

Os oes gan unrhyw un unrhyw bryderon ynghylch aelod o’r tîm diogelu, dylid eu cyfeirio yn uniongyrchol at yr arweinydd diogelu (DSL). Os yw'r pryder ynghylch yr arweinydd diogelu (DSL), dylid cyfeirio’r mater i sylw Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr.

Dylid ysgrifennu pob pryder, dim ots pa mor fach, yn y fformat adrodd melyn a choch google doc.

ADRODDIAD GWYRDD: Ar gyfer pethau bychain (E.e. cwpanau, toiledau wedi blocio) a sesiwn heb unrhyw bryderon. https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSc0CIx_OWA1JnejlsZ_YwaDmXLLk2tLSFs166LWXTic7sXPIw/viewform

ADRODDIAD MELYN: Ar gyfer ailadrodd / pryderon, E.e. rhegi, arwyddion cyntaf o ymddygiad drwg, ymddygiad sy’n anesmwytho https://forms.gle/4mBv1kU7LHpppCnK9

ADRODDIAD COCH: Ar gyfer materion diogelu mawr. E.e. unrhyw beth nad ydych chi’n hapus ag ef. Rhywun / fi fy hun / staff ddim yn ddiogel https://forms.gle/fUkfu5vTbboceSkb6

Gofalu amdanoch eich hun

Dylai unrhyw aelodau cwmni a allai fod wedi cael eu heffeithio gan fater diogelu yn eu bywyd personol siarad â’u rheolwr llinell i ddechrau, neu DSL, am gymorth. Mae help a chefnogaeth ar gael gan Iechyd Galwedigaethol a/neu gan Chris ein cwnselydd. Bydd y DSL yn cefnogi drwy roi cynllun gofal ar waith i gefnogi aelodau cwmni a chyfeirio at y man priodol.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio'n bersonol neu'n bryderus am unrhyw un o'r materion a godwyd gan y cwrs hwn, efallai y bydd y manylion cyswllt hyn yn ddefnyddiol i chi:

Chris HolmesCwnselydd Person-Ganolog surfingthewavecounselling@gmail.com

Care FirstCare First - Carefirst (care-first.co.uk) (edrychwch ar lawlyfr y Cwmni)

Llinell Gymorth yr NSPCC

Os ydych chi’n poeni am blentyn, gallwch gysylltu â’n llinell gymorth ni am gyngor a chefnogaeth.

Ffoniwch - 0808 800 5000

E-bostiwch help@nspcc.org.uk

Llinell Gymorth Chwythu'r Chwiban

Cefnogaeth i weithwyr proffesiynol sy'n poeni am blant yn y gweithle.

Ffoniwch 0800 028 0285

Ewch i - nspcc.org.uk

Childline

Gwasanaeth 24/7 am ddim i blant a phobl ifanc.

Ffoniwch 0800 1111

Ewch i - childline.org.uk

Amcanion ac Egwyddorion y polisi hwn

  • Darparu fframwaith i atal, canfod a rhoi gwybod am esgeulustod a cham-drin.
  • Sicrhau bod camau priodol yn cael eu gweithredu i ddelio ag unrhyw honiad neu bryder.
  • Sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cynllunio neu eu cyflwyno mewn ffordd sy'n diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion.
  • Sicrhau y gall aelodau'r cwmni ymddwyn yn ddiogel.
  • Amlygu sut mae Theatr Clwyd yn cyflawni ei hymrwymiadau cyfreithiol ym maes diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion.
  • Rhoi sicrwydd i aelodau'r cyhoedd, cwsmeriaid, ymddiriedolwyr, aelodau'r cwmni, a phobl sy'n gweithio ar ran y theatr bod trefniadau clir mewn lle i ddiogelu ac amddiffyn Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion.
  • Rhoi canllawiau clir i aelodau ac ymddiriedolwyr y cwmni theatr i nodi pryd gall Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion fod mewn perygl o niwed.

Yr egwyddorion sy’n sail i’r polisi hwn a’i weithredu yw

  • Rydym yn credu bod gan bob Plentyn, Person Ifanc ac Oedolyn (beth bynnag fo’u cefndir, diwylliant, oedran, anabledd, rhyw, ethnigrwydd, cred grefyddol, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, neu statws trawsryweddol) hawl i gymryd rhan mewn cymdeithas ddiogel heb ddim trais, ofn, cam-drin, bwlio, camfanteisio, neu wahaniaethu.
  • Rydym yn credu bod gan bob Plentyn, Person Ifanc ac Oedolyn yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag niwed, camfanteisio a cham-drin.
  • Byddwn yn rhoi lles Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion wrth galon ein polisïau a’n gweithdrefnau.
  • Byddwn yn gweithio'n agos mewn partneriaeth â Phlant, Pobl Ifanc ac Oedolion, eu rhieni, gofalwyr ac oedolion, ac asiantaethau eraill i ddiogelu a hyrwyddo lles Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion.
  • Byddwn yn parchu hawliau, dymuniadau, teimladau a phreifatrwydd Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion drwy wrando arnynt a lleihau unrhyw risgiau a all effeithio arnynt.
  • Byddwn yn buddsoddi mewn gwaith ataliol ac ymyrraeth gynnar ac yn ceisio osgoi sefyllfaoedd lle gall cam-drin neu honiadau o gam-drin neu niwed ddigwydd.
  • Rydym eisiau sicrhau amgylchedd gwaith lle mae ein cwmni’n teimlo’n hyderus i godi unrhyw bryderon am unrhyw gamymddwyn ymddangosiadol yn y theatr.

Canlyniadau

Byddwn yn mesur yr effaith yn rheolaidd ac yn cyflawni'r canlyniadau lefel uchel canlynol:

  • Mae dealltwriaeth glir ymhlith aelodau'r cwmni, ymddiriedolwyr, ac eraill sy'n gweithio ar ran y theatr o'r polisïau a'r canllawiau ar gyfer diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion.
  • Mae gweithdrefnau cadarn yn eu lle i sicrhau cydymffurfiaeth â'r polisi.
  • Bydd cysondeb rhwng y polisi hwn a gweithdrefnau Cymru gyfan a phrotocolau lleol cysylltiedig ar gyfer diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion.
  • Mae aelodau ac ymddiriedolwyr y cwmni yn mynychu hyfforddiant diogelu priodol.
  • Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion yn cael eu diogelu.

Atal

Nod strategaeth Atal y Llywodraeth yw diogelu pobl sy’n agored i radicaleiddio ac eithafiaeth. Rydym yn cydnabod bod hunan-barch uchel, hyder, ffrindiau cefnogol a llinellau cyfathrebu da gydag oedolyn y gellir ymddiried ynddo yn helpu i ddiogelu dysgwyr. Bydd y Theatr felly yn gwneud y canlynol:

  • sefydlu a chynnal ethos lle mae Plant a Phobl Ifanc ac Oedolion yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu hannog i siarad a lle mae ganddynt glust i wrando.
  • sicrhau bod pobl ifanc ac oedolion yn gwybod bod oedolion yn y lleoliad y gallant fynd atynt os ydynt yn bryderus neu'n cael anhawster.
  • meithrin perthnasoedd ag asiantaethau eraill a sicrhau bod atgyfeiriadau cynnar a phriodol ar gyfer cefnogaeth ac ymyrraeth yn cael eu gwneud cyn i risgiau gynyddu.
  • mabwysiadu dull theatr gyfan (lleoliad) o weithredu gyda lles a fydd yn ymgorffori mesurau diogelu ac ataliol i gefnogi Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion a theuluoedd.

Monitro ac Adolygu

Bydd y tîm Diogelu yn monitro ac yn adolygu dangosyddion perfformiad perthnasol bob chwarter.

Bydd y Polisi Diogelu hwn yn cael ei adolygu’n flynyddol neu os bydd unrhyw ddiwygiadau’n digwydd mewn deddfwriaeth neu wrth ystyried newidiadau mewn arferion gwaith a allai ddeillio o ddigwyddiadau neu honiadau.

Byddwn yn sicrhau bod ganddo DLS ar gyfer diogelu sydd wedi dilyn yr hyfforddiant priodol.

Sicrhau bod pob aelod o’r cwmni yn gwybod enw’r DSP a’i rôl, pwynt cyswllt yr awdurdod lleol ar gyfer diogelu o bod ganddynt gyfrifoldeb unigol dros roi gwybod am Blant, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn perygl a phryderon diogelu i’r gwasanaethau cymdeithasol, neu i’r heddlu, o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt gyda’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol ar sut i symud y pryderon hynny ymlaen pan nad yw’r DSP ar gael.

Sicrhau bod HOLL aelodau’r cwmni’n ymwybodol o’r angen am fod yn effro i arwyddion o gam-drin ac esgeulustod ac yn gwybod sut i ymateb i ddysgwr a allai ddatgelu cam-drin neu esgeulustod.

Darparu hyfforddiant i holl aelodau’r cwmni fel eu bod yn:

  • Deall eu cyfrifoldeb personol.
  • Gwybod am y gweithdrefnau lleol y cytunwyd arnynt a'u dyletswydd i ymateb a bod yn ymwybodol o'r angen am fod yn wyliadwrus wrth nodi achosion o gam-drin ac esgeulustod.
  • Gwybod sut i gefnogi Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion sy'n datgelu cam-drin neu esgeulustod.
  • Gweithio i ddatblygu cysylltiadau effeithiol gydag asiantaethau perthnasol a chydweithio yn ôl yr angen gyda'u hymholiadau ynglŷn â materion amddiffyn plant.
  • Cadw cofnodion ysgrifenedig o bryderon am blentyn (gan nodi'r dyddiad, y digwyddiad a'r camau a gymerwyd), hyd yn oed pan nad oes angen cyfeirio'r mater at yr awdurdod lleol ar unwaith.
  • Sicrhau bod yr holl gofnodion yn cael eu cadw'n ddiogel ac mewn ffolder sydd wedi’i diogelu gan gyfrinair ar-lein.

Atodiad

  • Cod Ymddygiad ar gyfer Cysylltiadau a Chynorthwywyr sy'n gweithio yn Theatr Clwyd a'r Gymuned
  • Cod Ymddygiad ar gyfer Cysylltiadau sy'n gweithio mewn Ysgolion
  • Cod Ymddygiad ar gyfer Gwaith Digidol