Cwestiynau Cyffredinol!
Ble fydd y Babell Fawr?
Bydd y Babell Fawr yn cael ei lleoli drws nesaf i Theatr Clwyd, yn agos i gyntedd y pentref dros dro.
A fydd y Babell Fawr yn hygyrch?
Bydd! Mi fydd y bws gwennol yn rhedeg ar gyfer yr holl berfformiadau hefyd.
A fydd y Babell Fawr yn gynnes?
Yn gynnes fel tost! Bydd y seddi hefyd wedi’u padio (nid fel syrcas!).
Pam mae golygfa gyfyngedig o rai seddi?
Mae seddi golygfa gyfyngedig ar Res B ychydig y tu ôl i’r llefydd i gadeiriau olwyn, gan fod gogwydd y seddi'n fas (sy’n cadw pawb yn nes at y digwydd). Mae'n bosibl y bydd yr olygfa yn gyfyngedig os yw'r llefydd i gadeiriau olwyn yn cael eu defnyddio.
Hefyd mae 2 biler grid agored ar gorneli blaen y llwyfan (maen nhw'n dal y babell i fyny felly mae angen iddyn nhw fod yno!) Gall hyn achosi i'r seddi tu ôl i'r rhain fod ychydig yn gyfyngedig o ran golygfa am gyfnodau byr - mae'n llwyfan mawr a bydd yr actorion yn symud yn gyson felly mae'n annhebygol y bydd eich golygfa'n cael ei chyfyngu am gyfnod hir.
Oes seddi hygyrch yn y Babell Fawr?
Oes, mae mynediad gwastad i Res A, lle mae 10 o lefydd i gadeiriau olwyn, pob un ag o leiaf un sedd i gyfaill.
Unwaith y byddwch chi wedi dod i mewn drwy'r brif fynedfa i'r Babell Fawr, dilynwch y llwybr mynediad gwastad o amgylch y seddi i Ddrysau 1 neu 6. Cysylltwch â thîm cyfeillgar y swyddfa docynnau os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am lwybrau mynediad i'r Babell Fawr.
