Pa un ydych chi?

O'ch sedd fe allwch chi gael eich cludo i amser a lle gwahanol, gallwch gael eich galw i weithredu, crïo chwerthin, gweld y byd drwy lygaid plentyn.Gall Theatr Emlyn Williams ennyn yr holl emosiynau yma, ond pa un ydych chi'n uniaethu fwyaf ag e?

Dewiswch pa un sy'n eich cynrychioli chi fwyaf a chefnogi ailddatblygiad Theatr Clwyd drwy enwi sedd yn y gofod hyblyg yma. Mae’r seddi yn Theatr Emlyn Williams yn symud o gwmpas mewn gwahanol ffurfiau, i greu’r profiad ‘stiwdio’ unigryw y mae llawer yn ei hoffi, felly ni allwn warantu lle bydd eich sedd nac argaeledd ar gyfer cynyrchiadau penodol, ond bydd plac yn y theatr yn cydnabod eich ymroddiad a’ch cefnogaeth i'r adeilad hanfodol yma.

The Political One

Ai chi sydd bob amser yn dechrau’r ddadl? Ydych chi'n teimlo'n angerddol pan welwch chi anghyfiawnder? O berfformiadau fel The Assassination of Katie Hopkins a Thick as Thieves, mae gan y gofod yma y cyfan.

Dewiswch eich angerdd


Yr Un I’r Teulu

Yn llawn rhyfeddod? Yn meiddio breuddwydio? Gofod i wylio theatr drwy lygaid plentyn. Yn llawn antur o Wave Me Goodbye
i Hansel & Gretel Fairytale Detectives, does dim pall ar y dychymyg.

Dewiswch eich angerdd


Yr Un Gomedi

Hoffi chwerthin? Yr un cyntaf i chwerthin? Gadewch i’r dagrau lifo yn y gofod hyblyg yma sydd wedi bod yn gartref i ddrama a enillodd Wobr Olivier ar gyfer y Gomedi Orau, Home, I’m Darling.

Dewiswch eich angerdd


Yr Un Glasurol

Ydych chi'n gwybod y gwahaniaeth rhwng Emlyn a Tennessee ac yn methu edrych ar wisg cyfnod heb wirio ei dilysrwydd? Rydyn ni wedi llwyfannu llawer o sioeau clasurol yn y gofod yma, o Uncle Vanya i Of Mice and Men and Men a bydd yn eich cludo i amser a lle gwahanol.

Dewiswch eich angerdd