Dirprwy Rheolwr Technegol Lleoliad
Disgrifiad Swydd
Pwrpas y Rôl
Cefnogi Rheolwr Technegol y Lleoliad (Theatr Clwyd) i gydlynu a darparu rheolaeth dechnegol a rheolaeth ar gyfleusterau'r lleoliad o ddydd i ddydd a chyflwyno'r holl gynyrchiadau, llogi a digwyddiadau yn ddiogel.
Y nod yw cydlynu rhediad esmwyth y lleoliadau perfformio o fewn amserlenni a chyllidebau y cytunwyd arnynt, a sicrhau bod gweithdrefnau gweithio diogel yn eu lle bob amser. Byddwch yn rhagweithiol wrth gynorthwyo Rheolwr Technegol y Lleoliad i ddatblygu, cysylltu a chyflwyno'r holl weithgareddau, gan weithio gyda phartneriaid allanol a chwsmeriaid yn ôl yr angen, a dirprwyo yn ôl yr angen.
Amdanom ni
Mae Theatr Clwyd yn hwb diwylliannol sy'n cynhyrchu theatr o safon byd ym mryniau Gogledd Cymru. Ers 1976 rydym wedi bod yn gwasanaethu ein cymunedau ac yn darparu profiadau theatr a chelfyddydol o'r safon uchaf i bobl Gogledd Cymru a thu hwnt.
Mae ein cenhadaeth yn gynyddol bwysig i ni ym mhopeth a wnawn.
Gwneud y byd yn lle hapusach, un ennyd ar y tro.
Rydym yn ddigon ffodus i fod yn un o’r ychydig iawn o theatrau yn y DU sy’n adeiladu setiau, gwneud gwisgoedd, paentio golygfeydd a chreu props yn fewnol. Mae'r sgiliau creu theatr hanfodol yma’n sicrhau ein bod yn gallu gwthio ffiniau theatrig i greu sioeau trawiadol o hedyn yn nychymyg yr awdur. Ers 2018, mae hyn wedi cael ei gydnabod gan y diwydiant theatr gyda gwobrau UK Theatre, The Stage ac Olivier.
Mae datblygu crëwyr theatr yn ein cymuned yn allweddol i gynnal sector diwylliannol Cymru a’r DU. Mae gennym ofod ar gyfer awduron a chwmnïau sy'n plethu â phrentisiaethau technegol a chyfarwyddwyr dan hyfforddiant i greu adeilad sy'n cefnogi pobl greadigol i ddatblygu rhagoriaeth artistig.
Rydym yn defnyddio ein sgiliau fel sail i drawsnewid cymdeithasol yn ein cymunedau. Rydym yn mynd i'r afael yn greadigol â heriau cymdeithasol ac addysgol fel cyfiawnder ieuenctid gan hefyd bontio rhaniadau cymdeithasol ac economaidd. Rydym yn cydnabod yr effaith uniongyrchol a'r manteision hirdymor y gall y celfyddydau eu darparu i gynorthwyo gyda lles seicolegol a chorfforol. Rydym yn cydweithio â bwrdd iechyd mwyaf y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau cymdeithasol lleol i ymateb i'r heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol drwy gefnogi ein cymunedau.
Mae gennym drosiant blynyddol diweddar o tua £7m ac rydym yn cael ein cyllido gan gyfuniad o Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir y Fflint, gwerthiant tocynnau’r swyddfa docynnau, incwm masnachol a chodi arian gan unigolion, ymddiriedolaethau a mudiadau a nawdd corfforaethol.
Disgrifiad Swydd
Teitl y Rôl - Dirprwy Rheolwr Technegol Lleoliad
Math o Gontract - Parhaol
Teulu - Profiad
Arbenigedd y tîm - Technegol (TC)
Oriau - 37 awr yr wythnos
Cyflog cychwynnol - £26,326
Gradd cyflog - OP4
Yn atebol i - Rheolwr Technegol Lleoliad
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
- Gweithio gyda Rheolwr Technegol y Lleoliad i gyflawni gofynion technegol pob ardal o'r lleoliad, gan sicrhau gweithredu diogel ar gyfer aelodau'r cwmni, cwmnïau sy'n ymweld, artistiaid, technegwyr a phersonél cysylltiedig bob amser.
- Cyfarfod â chwmnïau sy'n ymweld, hyrwyddwyr, cynhyrchwyr a llogwyr, gan ddarparu gwybodaeth dechnegol, cefnogaeth ac arweiniad iddynt, a bod yn gyfrifol am ffitio yn ôl yr angen, gan roi cyfarwyddyd i Dechnegwyr y Lleoliad fel y cytunwyd gyda Rheolwr Technegol y Lleoliad.
- Dosbarthu unrhyw wybodaeth berthnasol ar gyfer cynyrchiadau sy’n ymweld a llogi, gan gynorthwyo i sicrhau bod pob digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth yn unol â manyleb cynhyrchu’r digwyddiad.
- Sicrhau bod yr holl sioeau a’r digwyddiadau yn y lleoliad yn cael eu cyflwyno’n llwyddiannus, bod â gwybodaeth ymarferol, ar y safle, am yr adnoddau sydd yn eu lle a sicrhau bod yr offer goleuo a sain ac unrhyw ofynion llwyfannu yn barod ar gyfer pob digwyddiad.
- Gweithredu fel Technegydd Lleoliad Ar Ddyletswydd ar gyfer digwyddiadau a chynyrchiadau, yn ôl yr angen, gan oruchwylio gwaith ymarferol mewn perthynas â dod i mewn i’r theatr, ffitio, tynnu offer i lawr a gadael, gan gynnwys 'sgyrsiau bocs celfi', paratoi a gosod offer goleuo, sain ac AV, gosod a ffitio setiau, rigio a masgio, darnau golygfaol yn hedfan, props, peirianneg llwyfan, offer rigio a chodi, gan gynnwys unrhyw effeithiau arbennig sy'n cael eu hedfan.
- Gweithredu fel Warden / Swyddog Tân, a chynorthwyo i symud staff ac aelodau'r gynulleidfa allan o’r lleoliad yn ddiogel os bydd tân neu argyfwng.
- Defnyddio dull creadigol a blaengar o ddatrys problemau.
- Bod yn llysgennad brand ar gyfer y lleoliad yn ogystal â Theatr Clwyd
- Sicrhau dealltwriaeth o'r lleoliad cyfan a'i holl alluoedd – y goleuo, y sain, y llwyfannu, y seddi a’r cyfleusterau cefn llwyfan / ystafell wisgo, rhannu gwybodaeth ac adborth gyda Rheolwr Technegol y Lleoliad yn ôl yr angen i sicrhau cyfleusterau o ansawdd uchel.
- Darparu cefnogaeth cynnal a chadw rheng flaen ar gyfer yr holl offer technegol perthnasol, y peiriannau, y gosodiadau a’r ffitiadau, a gweithio gydag aelodau eraill o'r teuluoedd Profiad a Chreu Theatr i sicrhau bod gwaith cynnal a chadw arbenigol yn cael ei wneud gan aelodau priodol y cwmni.
- Gweithio fel rhan o'r tîm ar gynnal a chadw a stocrestr yr offer technegol, gan gadw cofnodion i sicrhau bod archwiliadau cynnal a chadw yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn unol â’r rheoliadau, gan gynnwys PAT a phrofion eraill.
- Adolygu asesiadau risg a datganiadau dull yn ôl yr angen fel rhan o'r gwaith o ffitio a gweithredu sioeau cwmnïau sy'n ymweld a llogi / digwyddiadau.
- Mynychu hyfforddiant yn ôl yr angen a chynnal ymwybyddiaeth o reoliadau iechyd a diogelwch sy'n benodol i'r gofod a'r offer a ddefnyddir.
- Wrth weithredu fel Technegydd Lleoliad ar Ddyletswydd, sicrhau bod rhwymedigaethau cyfreithiol perthnasol yn cael eu bodloni bob amser gan aelodau’r cwmni a chwmnïau sy’n ymweld yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch y cwmni.
- Sicrhau y cedwir at yr holl reoliadau ar gyfer dod i mewn, ffitio a gadael.
- Gweithio'n agos gyda holl gydweithwyr Theatr Clwyd, gan barhau i greu amgylchedd lle gall aelodau'r cwmni weithio ar draws y ddau safle.
- Cydweithio ag aelodau'r Teuluoedd Creu Theatr fel rhan o'r broses o ddylunio cynyrchiadau Theatr Clwyd, gan ddarparu syniadau ac atebion i wireddu cynlluniau o ansawdd uchel ar ein llwyfannau ni.
- Unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n cael eu hystyried yn rhesymol gan Reolwr Technegol y Lleoliad
Manyleb y Person
Hanfodol
- Profiad o weithio mewn lleoliad / adran dechnegol theatr / gyda chwmni teithiol neu debyg.
- Profiad cadarn mewn theatr dechnegol a / neu reoli cynyrchiadau.
- Gwybodaeth weithredol gadarn am systemau goleuo theatrig – gan gynnwys profiad rhaglennudesg goleuo EOS, dealltwriaeth o gynlluniau goleuo, profiad o rigio a ffocysu, paratoi a chynnal a chadw offer goleuo.
- Gwybodaeth weithredol gadarn am systemau sain theatrig – gan gynnwys gosod a gweithredu PA, profiad o osod meicroffonau a meicroffonau radio, a gweithredu desg sain
- Trefnus ac ar flaen y gad, gyda phrofiad llwyddiannus o gadw at derfynau amser a rheoli blaenoriaethau sy'n gwrthdaro.
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, y gallu i gyfathrebu'n glir ac yn gyson â holl ddefnyddwyr y theatr a’r gofod ar gyfer digwyddiadau, yn enwedig defnyddwyr annhechnegol.
- Gwybodaeth weithredol am reoliadau iechyd a diogelwch perthnasol (gan gynnwys PUWER, COSHH, LOLER), canllawiau diwydiant ac arferion gweithio diogel (ABTT).
- Profiad o adolygu Asesiadau Risg a Datganiadau Dull.
- Y gallu i ddefnyddio ystod eang o gelfi pŵer cludadwy ac offer llaw yn ddiogel ac yn hyderus.
- Yn gorfforol heini ac yn barod i weithio ar uchder.
- Yn hyderus wrth weithio'n annibynnol ond hefyd yn barod i gydweithio ar draws nifer o adrannau.
- Y gallu i weithio oriau hyblyg ac anghymdeithasol gan gynnwys gyda'r nos ac ar rai penwythnosau.
Dymunol
- Wedi cael hyfforddiant codi a chario, defnyddio ystolion a chyfarpar mynediad.
- Profiad o osod a gweithredu offer AV / taflunio.
- Profiad o rigio, addasu a gweithredu systemau rigio a hedfan theatrig.
- Profiad o osod a rigio systemau golygfeydd a decin llwyfannau.
- Dangos gallu i lunio, darllen a deall cynlluniau technegol, gyda gwybodaeth am CAD a rhaglenni eraill.
- Gwybodaeth am theori ac ymarfer trydanol yn ymwneud â systemau goleuo, sain a chyfathrebu mewn theatrau.
- Gwybodaeth gyfredol am dechnoleg a systemau llwyfan.
- Profiad o reoli digwyddiadau.
- Cymraeg ysgrifenedig a llafar.
- Trwydded yrru lawn a phrofiad o yrru fan LWB.