Mae cofio Theatr Clwyd yn eich ewyllys yn ffordd hyfryd o drosglwyddo'ch angerdd dros theatr fyw i'r genhedlaeth nesaf.
Ers 1976, mae cynulleidfaoedd a chymunedau wedi dod at ei gilydd yn yr adeilad arbennig hwn, lle sy'n ysbrydoledig, yn chwareus, yn newid yn barhaus, ac yn llawn gofal. Yn ystod ein hanes o 45 o flynyddoedd, rydyn ni wedi mwynhau cefnogaeth hael cymaint o bobl, yn aelodau'r gynulleidfa, rhoddwyr, neu drwy gymryd rhan yn un o'n prosiectau ymgysylltu creadigol ac iechyd a lles.


Theatr Clwyd is a rarity... thatโs why Iโve made a legacy pledge, to ensure its long-lasting success. I hope you can join me.Roger Tomlinson
Stori Roger
Tomlinson oedd Rheolwr cyntaf Theatr Clwyd (1975 i 1982) a buโn allweddol wrth lansio ein hadeilad eiconig.
โErs bron i 50 mlynedd mae Theatr Clwyd wedi cynnig budd rhyfeddol i Ogledd Cymru a thu hwnt. Roeddwn i yno oโr dechrau ac mae wedi bod yn fraint cael ei gwylioโn tyfu i fod yn rhan bwysig oโr gymuned hon.
Maeโn hanfodol bod y llawenydd y maeโr theatr yn ei gynnig i ni, y cyfleoedd y maeโn eu creu aโr ehangder rhyfeddol o ddigwyddiadau y gallwch chi eu profi, o ddramรขu i ffilmiau a chyngherddau, yn cael eu trosglwyddo i genedlaethauโr dyfodol.โ
Leaving a Legacy
Mae eraill wediโu cyffwrdd gymaint gan yr hyn maen nhw wedi'i brofi yn y lle eithriadol yma fel eu bod nhw wedi ymrwymo i adael rhodd yn eu hewyllys i Theatr Clwyd. Bydd rhoddion gwaddol, mawr a bach, yn ein helpu ni i barhau i ysbrydoli cymunedau drwy waith ar ac oddi ar ein llwyfannau, gyda chynyrchiadau a rhaglenni sy'n cyffwrdd รข bywydau pobl mewn cymaint o ffyrdd. Gellid cyfeirio rhodd tuag at faes gwaith penodol sydd o ddiddordeb i chi neu gallai fod yn rhodd heb gyfyngiad, gan ein helpu ni i gyfeirio eich cefnogaeth lle mae ei angen fwyaf.
Felly, pan fydd yr amser yn iawn i chi, ar รดl darparu ar gyfer eich teulu a'ch ffrindiau, rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n meddwl am Theatr Clwyd.
Mae Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd yn elusen gofrestredig, felly byddai gwerth y rhodd yn cael ei dynnu o'ch stad cyn i'r dreth gael ei hasesu.


Diolch i chi am eich diddordeb!
I siarad gyda ni yn gyfrinachol, cysylltwch รข Zoe Crick-Tucker, Cyfarwyddwr Datblygu a Chynaliadwyedd Amgylcheddol, ar 01352 344101 neu ar e-bost zoe.crick-tucker@theatrclwyd.com