Dyfodol Theatr Clwyd

Mae cyflawni llawer iawn o gelfyddydau o'r radd flaenaf ac ymgysylltu â'r gymuned er 1976 wedi dweud ar y theatr - mae'r adeilad yn pydru ac yn rhwystro ein gwaith, a heb i ni weithredu, bydd yn le anniogel.

Rŵan, gydag arweinyddiaeth newydd, rydyn ni'n gweithio gyda'r penseiri o fri Haworth Tompkins i ailddatblygu ac achub Theatr Clwyd. Rydym yn sicrhau cartref i gymunedau sy'n wyrdd ac yn gynaliadwy, gyda lleoedd iechyd a lles, adeilad sy'n cefnogi ein gweithgareddau gydag ysgolion a'r gymuned yn iawn ac yn diogelu profiadau diwylliannol o ansawdd uchel yng Ngogledd Cymru ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Mae gennym gefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Celfyddydau Cymru, ond mae angen i ni godi £ 4m i sicrhau bod yr ased cymunedol hanfodol hwn yn cael ei warchod.

  • Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn 2021 ac yn gorffen erbyn 2023
  • Bydd y prosiect yn cael ei gwbwlhau mewn dau ran gan sicrhau bod y theatr yn aros ar agor trwy gydol yr adeg yma.
  • Bydd yr ailddatblygiad yn caniatáu i ni ehangu ein gwaith yn y maes iechyd, lles ac addysg

Mae Haworth Tompkins yn benseiri ar gyfer y National Theatre, Young Vic, Liverpool Everyman, Bristol Old Vic a'r Battersea Arts Centre

0 Stars

A fydd yr adeilad yn cau pan fydd hyn i gyd yn digwydd?
Na! Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno'n raddol gan olygu y bydd un o'r theatrau bob amser ar agor. Bydd gennym hefyd theatr pop-yp dros dro anhygoel 300 sedd wrth ochr yr adeilad!

O sioeau byd-enwog sy’n cael eu creu yn Sir y Fflint i’n gwaith ni sydd wedi ennill gwobrau gyda phobl ifanc a hŷn – ers dros 40 mlynedd mae ein hadeilad wedi bod yn arloesi mewn rhagoriaeth ac yn gartref i’n cymuned ni.

Ond mae’r adeilad angen ei ailddatblygu ar frys i sicrhau nid yn unig ei fod yn ddiogel ac yn addas i bwrpas ond hefyd i greu cartref gwyrdd ac ysbrydoledig i’n cymuned ni am y 40 mlynedd nesaf a thu hwnt.

Bydd y prosiect unigryw yma yn sicrhau bod Gogledd Cymru’n cadw’r adnodd hanfodol a chynaliadwy yn ariannol yma ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.


Adeilad Sy'n Adfeilio

Adeiladwyd Theatr Clwyd yn 1976 gan Gyngor Sir Clwyd i wasanaethu’r rhanbarth gyda theatr a chelfyddydau o safon byd.

Cafodd ei hadeiladu i’r safonau uchaf yn 1976, ond mae’r 40 mlynedd diwethaf wedi gadael eu hôl – mae ein to ni’n gollwng, mae mecaneg a gwaith trydan yr adeilad yn cyrraedd diwedd eu hoes, nid yw ein hardaloedd i’r gynulleidfa’n gallu cyfateb bellach i brofiad ein gwaith rhagorol ni ar y llwyfan, ac mae’r mynediad i’r anabl yn ddifrifol. Mae timau creu’r theatr yn gweithio mewn hen gyfleusterau anaddas ac nid yw’r adeilad yn bodloni safonau iechyd a diogelwch modern.


Er bod rhoi plaster dros grac wedi ein cynnal ni dros y blynyddoedd, mae’n amlwg bellach nad yw ein hadeilad hyfryd ni’n addas i bwrpas.


Dyfodol gwyrdd i ni i gyd

Rydyn ni’n angerddol am achub ein planed ac rydyn ni eisiau sicrhau bod ein hadeilad yn gynaliadwy, yn amgylcheddol gyfeillgar a bod ei ôl troed carbon yn llawer iawn llai. Mae hynny’n golygu bod rhaid i ni reoli ynni a gwastraff yn well.

Mae adeilad gwyrdd, cynaliadwy, yn ein helpu ni i wneud arbedion carbon a defnyddio ein hadnoddau’n well – i greu theatr o safon byd a datblygu prosiectau dysgu ac ymgysylltu cymunedol – nid talu biliau ynni cynyddol.


Iechyd a lles

Mae ein prosiectau iechyd a lles sydd wedi ennill gwobrau’n gwneud byd o wahaniaeth i bobl fregus yn ein cymuned ni – o Ganu ar gyfer Iechyd yr Ysgyfaint a gweithdai iechyd meddwl i Gelf o’r Gadair Freichiau ar gyfer y rhai sy’n dechrau colli eu cof (gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) a’n Caffi Celfyddydau Cof ar gyfer y rhai sy’n byw gyda dementia.

Wrth galon y gwaith ailddatblygu bydd ystafell iechyd a lles gyda chyfleusterau newid arbenigol a gardd synhwyraidd – llecyn heddychlon, ar wahân, gyda goleuadau synhwyraidd y mae posib eu haddasu, mynediad hwylus ac offer penodol.

Bydd y gofod hwn â’i ffocws llwyr ar helpu’r rhai yn ein cymunedau ni sydd ag anghenion penodol a fydd yn elwa o’n gwaith celfyddydau, iechyd a lles cynyddol.

Lle i deuluoedd

Am y tro cyntaf, bydd gan deuluoedd, plant a phobl ifanc gyfleusterau wedi’u cynllunio ar eu cyfer – gyda man chwarae dan do, cae chwarae antur wedi’i gynllunio’n arbennig, gwell mynediad i bawb gyda lle i barcio eich pram, toiledau teulu i’w rhannu a lle newid babi ac arlwyo llawer gwell i deuluoedd – bydd hyn i gyd yn ein helpu ni i barhau i gyflwyno plant i fyd y theatr ac i’r celfyddydau a chwarae creadigol er mwyn dysgu am oes.

Darganfod, Dysgu, Archwilio

Mae miloedd o bobl, ifanc a hen (hŷn), yn gweithio gyda ni bob blwyddyn gan ddysgu sgiliau newydd, creu cymunedau newydd ac archwilio eu creadigrwydd.

Bydd yr hwb ieuenctid yn lle diogel a chreadigol ar gyfer ymarfer, cyfarfod ac ymlacio – lle i bobl ifanc fod yn berchen arno. Bydd gan ein gweithdai wythnosol ystafelloedd addas i bwrpas a bydd ein gofod yn addas i addysgu sgiliau trosglwyddadwy’n seiliedig ar arbenigedd theatrig mewn gwisgoedd, goleuadau, sain, props, celf olygfaol ac adeiladu setiau.

Agored i bawb

Bydd gan bawb fynediad i’n hadeilad.

Bydd mynediad y 21ain ganrif yn golygu lifftiau maint addas (ac yn bwysicach fyth, rhai sy’n weithredol!), drysau ehangach, arwyddion gwell, toiledau a chownteri hygyrch, offer newydd ar gyfer sioeau sain ddisgrifiad, capsiwn, hamddenol a gydag arwyddion, yn ogystal ag ardaloedd torri allan a gerddi awyr agored, tawel.

Byddem hefyd yn sicrhau bod ein hardaloedd cefn llwyfan yn hollol hygyrch ar gyfer gwneuthurwyr theatr broffesiynol gydag anghenion hygyrch.

Taro’r nodyn iawn!

Ni yw cartref Gwasanaeth Cerddoriaeth Sir y Fflint sy’n gweithio yn ein hysgolion ni i sicrhau bod cariad at gerddoriaeth (yn ogystal â cherddorion o safon uchel iawn!) yn parhau i gael ei meithrin yn Sir y Fflint.

Bydd gofod ymarfer ac addysgu newydd ar gyfer ensembles ac unigolion yn cael ei gefnogi gan storfa offerynnau o ansawdd uchel (i sicrhau bod ein hofferynnau ni i gyd yn cael gofal priodol!)

Profiad yr ymwelwyr

Bydd ein mannau cyhoeddus yn agored, golau a hygyrch – gyda bar a swyddfa docynnau wedi’u hail-greu ar gyfer gwasanaeth cyflymach, llai o giwio, gwell croeso a mwy o seddau i ymlacio ynddynt cyn y sioeau.

Bydd ffenestri gwydr enfawr yn rhoi golygfeydd godidog gyda mynediad i deras allanol. Bydd yr orielau a’r sinema’n cael gwedd newydd, bydd y lifft yn cael ei gwella a bydd bar cyfforddus y tu allan i’n sinema. Bydd ein siop anrhegion boblogaidd yn cael ei hailwampio i gynnig y cynnyrch Cymreig gorau a chrefftau a chardiau.

Bydd cegin addas i bwrpas newydd gyda’r bwyty’n cael ei symud i’r llawr cyntaf yn golygu golygfeydd gwych a bydd brecwast, cinio a phrydau bwyd cyn y theatr ar gael gan gynnwys y cynnyrch gorau o Ogledd Cymru mewn awyrgylch cyfforddus a hardd.

Am y tro cyntaf ers blynyddoedd, byddwn yn gallu cynnal a darparu ar gyfer digwyddiadau mawr, mewn ystafell digwyddiadau ar ei newydd wedd a gaiff ei chynllunio fel gofod cofiadwy ar gyfer pob math o achlysuron.

Ein Theatrau Ni

Rydyn ni wrth ein bodd gyda’n theatrau. A phan wnaethon ni ofyn i chi, fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi wrth eich bodd gyda nhw hefyd. Does dim rhaid eu newid yn llwyr, dim ond eu hadnewyddu – gan wneud y da yn wych.

Mwy o seddau cyfforddus, mwy o le i goesau, carpedi newydd, awyru a gwresogi priodol ac, ar ôl gwrando ar eich adborth chi, dau lwybr newydd yn Theatr Anthony Hopkins (i sicrhau llai o wasgu i’r seddau canol).

Bydd seddau’r balconi yn Theatr Emlyn Williams yn fwy hygyrch a bydd gwell llefydd (a mwy o lefydd) i gadeiriau olwyn yn y ddwy theatr.

Bydd cyfleusterau’r llwyfan yn cael eu huwchraddio. Bydd llwyfan Anthony Hopkins yn cael ei gryfhau a bydd mecaneg y llwyfan a’r systemau hedfan yn y ddau ofod yn cael eu hatgyweirio.

Adeiladu setiau

Ar hyn o bryd mae ein setiau ni’n cael eu gwneud oddi ar y safle mewn warws drud sy’n cael ei rentu – bydd gweithdy newydd y mae ei wir angen gydag offer weldio, gwaith coed a phaentio setiau’n gyfle i ni adeiladu setiau’n fwy effeithlon ac yn fwy diogel, gan arbed arian ar yr un pryd.

Gyda phawb o dan yr un to, gallwn gydweithio mwy ac ymateb i’n cynllunwyr a’n cyfarwyddwyr. Gall oriel wylio newydd olygu y gallwch chi wylio ein setiau ni’n cael eu hadeiladu a’u paentio (o le diogel).

Mewn ymarferion

Bydd ein hystafelloedd ymarfer newydd yn addas i bwrpas a’r maint priodol ar gyfer ein llwyfannau ni – bydd nenfydau uwch a gwell mynediad yn sicrhau bod yr actorion yn gallu ymarfer ar setiau ffug a bydd systemau gwresogi ac awyru gwell yn eu cadw ar dymheredd creadigol llawer gwell*!

Hefyd byddwn yn gallu ymarfer dawnsio oherwydd bydd gennym ni lawr sbring – sy’n hanfodol ar gyfer cadw cymalau dawnswyr yn ddiogel!

*Mewn difrif calon – mae’n anodd iawn canolbwyntio pan rydych chi’n crynu o oerni!

Gwisgoedd

Bydd ein tîm gwisgoedd yn symud yn nes at ein hystafelloedd ymarfer mewn ardal arbenigol gydag ystafelloedd ffitio priodol, cyfrifiaduron sy’n gweithio, awyru gwell, golau gwell (fel ein bod yn gallu gweld beth rydyn ni’n ei bwytho) ac offer!

I gael y gwisgoedd i’r llwyfan yn barod ar gyfer sioe gyda’r nos, bydd lifft newydd a choridor mynediad yn galluogi symud y gwisgoedd yn rhydd o amgylch yr adeilad, gan olygu ei bod yn haws golchi yn ystod ac ar ôl sioeau!

Lle i baratoi

Rydyn ni eisiau i actorion gorau’r wlad ddod i berfformio ar ein llwyfannau ni ond mae’r ystafelloedd gwisgo’n eithaf difrifol ar hyn o bryd – bydd eu hadnewyddu i ddarparu gofod hamddenol y gall actorion ei alw’n gartref oddi cartref a hefyd sicrhau gwell mynediad a phreifatrwydd yn gwneud perfformio yn Theatr Clwyd yn fwy apelgar fyth.