CLWB TRAED BUDUR GLANRAFON!
27 Medi 2023 - 3 Gorff 2024
Ein grŵp dawns wythnosol ar gyfer Ysgol Glanrafon! Archwilia dy greadigrwydd dy hun a dysga am wneud theatr gyda thîm Theatr Clwyd o artistiaid talentog ac arweinwyr gweithdai. Disgwylia drio llawer o steiliau dawns gwahanol i gerddoriaeth.
Byddi di’n dysgu sgiliau newydd, rhannu straeon, chwerthin, magu hyder a gwneud ffrindiau newydd.
Mae hwn ar agor i’r rheini sy’n mynychu Ysgol Glanrafon ym Mlwyddyn 4,5,6
Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?
Dyddiadau Tymor 23-24
Tymor yr Hydref: Maw 25 Medi 2023 – Sad 16eg Rhag 2023
- Hanner Tymor: 30 Hyd 2023 - 4 Tach 2023 (Dim sesiynau)
Tymor y Gwanwyn: Llun 15 Ion 2024 – Sad 23 Maw 2024
- Hanner Tymor: 12 Chwef 2024 - 17 Chwef 2024 (Dim sesiynau)
Tymor yr Haf: Llun 8 Ebrill 2024 – Sad 6 Gorff 2024
- Hanner Tymor: 27 Mai 2024 - 1 Meh 2024 (Gweithgareddau Perfformiad)
Archebu
I archebu, cysylltwch â'r swyddfa docynnau ar 01352 344101
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen unrhyw help arnoch yna mae ein tîm yma i'ch cefnogi.
E-bost: box.office@theatrclwyd.com
Ffôn: 01352 344101