Mae ein Clwb Comedi yn mynd yn FAWR am un noson yn unig yn 2023! Noson wych o stand-yp yn chwaer leoliad Theatr Clwyd, Neuadd William Aston (Dim ond 22 munud o Theatr Clwyd!)!
Gyda rhaglen chwerthinllyd o dda sydd bob amser yn cynnwys y goreuon ar y gylchdaith a gyda thocynnau o £10, dyma’ch hoff noson allan newydd chi!
Myfyrwyr – dim ond £5!
Yn cynnwys:
• Nick Helm (Uncle, 8 Out Of 10 Cats, Live At The Apollo)
• Amy Gledhill (Stand Up Sketch Show, Emily Atack Show)
• Josh Pugh (Mock the Week, Hypothetical)
• Brennan Reece (Live At The Apollo)
• Seeta Wrightson “jokes as fierce as her outfits”