Efallai nad ydym yn gallu rhannu ein sioe fyw anhygoel eleni ond dydi hynny ddim yn golygu na fyddwch yn cael cyfle i brofi rhywfaint o hud y panto yn Theatr Clwyd!
Rydyn ni wedi gwneud ffilm wych o’r sioe sydd ar gael i chi ei gwylio yn ystod y Nadolig! Dewiswch y diwrnod pryd byddech yn hoffi gweld y sioe a chewch fynediad i’w gwylio’n llawn (gydag ambell ddarn bonws!) ar y diwrnod hwnnw! Gyda rhai o’ch hoff ganeuon, yr holl jôcs y byddech yn eu disgwyl ac ymddangosiad arbennig hyd yn oed gan Dêm Orau Cymru!
Mae’r Wrach Gas wedi ennill! Beth wnawn ni am hwyl yr ŵyl?
Mae’n dawel ym myd y Panto – popeth dan glo...
Ond mae’r da bob amser yn trechu’r drwg, dim ots faint o anawsterau sydd ...
Sioe awr o hyd yn null y panto roc a rôl gwych!
Cyfarwyddwyd gan Tamara Harvey | Ysgrifennwyd gan Christian Patterson
Cynlluniwyd gan Adrian Gee | Cyfarwyddwr Cerddorol Tayo Akinbode | Coreograffi gan Annie-Lunnette Deakin-Foster | Goleuo gan Jo Town | Cynllunydd Sain Matthew Williams | Cyfarwyddwr Cynorthwyol Eleri B Jones
FAQs
Sawl tocyn y dylwn i brynu?
Prynwch nifer y tocynnau sy'n cyfateb â nifer y bobl sy'n gwylio, os gwelwch yn dda.
Nid wyf yn byw yn y DU, ydw i’n gallu gwylio?
Yn anffodus, ni ellir gwylio’r ffilm tu allan i’r DU.
Oriel
Adolygiadau
- Thank you Theatre Clwyd and Flintshire fostering team, we sang. we danced, it was participation to the max. We had a great time...... oh yes we did!Flintshire Foster Carers
- Thank you so much for giving us the chance to watch the panto. We thoroughly enjoyed watching it That was FABULOUS!!!!!Flintshire Foster Carers
Cast a Chreadigol
I wylio ein digwyddiadau ar-lein bydd arnoch chi angen:
I wylio ein digwyddiadau ar-lein bydd arnoch chi angen:
Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r porwyr diweddaraf – byddwn yn gweithio yn Chrome, Firefox, Safari, Internet Explorer neu Microsoft Edge – efallai na fydd rhai fersiynau hŷn o borwyr (mwy na 3 oed fel rheol) yn gweithio ac efallai y bydd angen eu diweddaru. Hefyd byddem yn argymell, wrth wylio, mai dim ond un tab (neu sgrin pori) sydd ar agor. Gall bod â thabiau a sgriniau niferus ar agor achosi’r chwaraewr i fod yn arafach oherwydd y cof sydd ei angen ar gyfer yr holl dabiau (gan arafu’r cyfrifiadur). Yn olaf, os cewch chi unrhyw broblemau, peidiwch â phoeni – cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i ddatrys y broblem. |