Sgyrsiau

See dates and times  

Sesiwn Gymorth: Gweithio ym myd y Celfyddydau

8 Awst | 10 – 11:30yb | @ Sinemaes, Eisteddfod

Ymunwch a rai o aelodau tîm Theatr Clwyd am sgwrs anffurfiol i gynnig cymorth i unrhyw un sy'n gweithio neu sydd â diddordeb mewn gweithio ym myd y Celfyddydau. Yn barod i’ch helpu bydd: Gwennan Mair (Cyfarwyddwr Cymuned, Lles ac Addysg), Daniel Lloyd (Cyfarwyddwr/Actor/Cerddor), Branwen Jones (Cynhyrchydd). Does dim angen archebu, dewch draw!


Sgwrs Banel: Ein Hadeilad Eco-gyfeillgar

8 Awst | 12:30 – 1:30yp | @ Y Lle Celf, Eisteddfod

Cyfle i glywed am ein hadeilad newydd eco-gyfeillgar. Ar y panel: Gwennan Mair a Branwen Jones o Theatr Clwyd, y dylunydd Lois Prys, yr artist Manon Awst, a’r cogydd Bryn Williams a fydd yn agor ei fwyty newydd yn y theatr. Yn cadeirio’r sgwrs bydd Leusa Llewelyn. Bydd cyfle i holi’r panel ar y diwedd.