
Stori Fach
Little Story
Maw 18 Tach - Maw 9 Rhag
Straeon, crefftau a hwyl creadigol!
Ymunwch â ni am fore dydd Mawrth hudolus yn llawn straeon, crefftau a hwyl creadigol y bydd y teulu cyfan wrth eu bodd ag e! Dewch at eich gilydd am straeon hudolus sy'n cael eu hadrodd gan ein storïwyr cyfareddol ni, ac wedyn gadewch i'ch dychymyg redeg yn wyllt gyda chelf a chrefft. O straeon i gynhesu'r galon i ffyn glud gliter.
Yn para tua 45 munud, mae'r sesiwn greadigol yma wedi'i chynllunio ar gyfer plant dan 5 oed a'u teuluoedd.
Addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg!
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gyflwyno gan Theatr Clwyd, Creative Associates.
Sesiynau Blasu
18 Tach | 25 Tach | 2 Rhag | 9 Rhag
I archebu, cysylltwch â Swyddfa Docynnau
FAQ's
Tocynnau
- Mae angen tocyn ar gyfer y plentyn yn unig, does dim angen tocyn ar oedolion.
- Uchafswm o 2 oedolyn i bob archeb.
- Gallwch archebu ar gyfer y 4 sesiwn blasu neu ddyddiadau unigol.
- Ni allwch archebu tocynnau ar gyfer y sesiynau blasu ar-lein, i archebu cysylltwch â'r swyddfa docynnau.
- Sessions will be weekly weekly from 6 January.
Goruchwyliaeth
Dylai Rhieni / Gwarcheidwaid fod gyda'u plant drwy gydol y sesiwn - mae'r sesiwn wedi'i chynllunio o amgylch rhannu llawenydd darllen gyda'n gilydd.
Cadeiriau Gwthio a Newid Babanod
- Mae gennym ni le ar gyfer cadeiriau gwthio
- Mae cyfleusterau newid babanod ar gael (ac maen nhw'n neis iawn!)
Bwyd a Diod
I Blant:
Mae'n iawn i chi ddod â byrbrydau a diod i'ch plentyn, ond rydyn ni'n gofyn i oedolion beidio â dod â'u bwyd a'u diod eu hunain.
I Oedolion:
Mae gennym ni fwyty / bar / caffi hyfryd lle mae coffi, brecwast, byrbrydau a chacennau blasus ar gael (fe fydd gennym ni ddigon o gaffein ar eich cyfer chi).


