Springsteen Deliver Me From Nowhere Gradd 12A.

See dates and times  

Gan 20th Century Studios, mae “Springsteen: Deliver Me from Nowhere” yn croniclo’r gwaith o greu albwm “Nebraska” Bruce Springsteen yn 1982 pan oedd yn gerddor ifanc ar fin bod yn archseren fyd-eang, yn brwydro i ymdopi â phwysau llwyddiant ac ysbrydion ei orffennol.

Wedi'i recordio ar beiriant recordio 4 trac yn ystafell wely Springsteen yn New Jersey, roedd yr albwm yn nodi cyfnod allweddol yn ei fywyd ac mae’n cael ei ystyried fel un o'i weithiau mwyaf oesol - record acwstig amrwd, gythryblus yn llawn eneidiau coll yn chwilio am reswm i gredu.

Gyda Jeremy Allen White yn serennu fel y Boss, mae'r ffilm wedi cael ei hysgrifennu ar gyfer y sgrin a'i chyfarwyddo gan Scott Cooper yn seiliedig ar y llyfr “Deliver Me from Nowhere.” gan Warren Zanes.

Mae “Springsteen: Deliver Me from Nowhere” hefyd yn cynnwys Jeremy Strong fel cyfaill a rheolwr hirdymor Springsteen, Jon Landau; Paul Walter Hauser fel y technegydd gitâr Mike Batlan; Stephen Graham fel tad Springsteen, Doug’ Odessa Young fel cariad iddo, Faye; Gaby Hoffman fel mam Springsteen, Adele; Marc Maron fel Chuck Plotk a David Krumholtz fel y gweithredydd o Columbia, Al Teller.