Gogoniant Rhufain. Dinistr rhyfel. Mae opera gyffrous Puccini yn dychwelyd mewn cynhyrchiad epig newydd.
Anna Netrebko sy’n serennu yn y brif ran, ochr yn ochr â Freddie De Tommaso, mewn llwyfaniad newydd cyffrous o Tosca gan Puccini ar gyfer y Royal Opera.
Dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cerdd newydd Jakub Hrůša ac wedi'i chyfarwyddo gan Oliver Mears.
Mae'r cynhyrchiad yma’n cynnwys darluniau o drais, ymosodiad rhywiol, awgrymiadau o arteithio, gwaed a hunanladdiad.