Ie Ie Ie

Past Production

See dates and times  

Mae dau berson ifanc yn ffansio’i gilydd. Mae ‘na ddau arall sy’n ffansio’i gilydd ‘fyd.

Mae’r ddau bar yn dilyn llwybrau eithaf tebyg wrth i’w perthynas ddatblygu.

Tan i brofiad un fynd i gyfeiriad hollol wahanol.

Mae Ie Ie Ie yn addasiad Cymraeg o Yes Yes Yes; sioe fyw arobryn gan y gwneuthurwyr theatr o Aoteaora/Seland Newydd, Karin McCracken ac Eleanor Bishop. Gyda Juliette Manon yn cyfarwyddo, mae’r sioe yn cynnwys cyfweliadau gonest gyda phobl ifanc Cymru, perfformiad unigol bachog, a chyfle i’r gynulleidfa gyfrannu. Dyma ddarn o theatr pwysig am brofiadau bywyd go iawn pobl ifanc heddiw sy’n codi cwestiynau hanfodol am berthnasau iach, chwant a chaniatâd.

Mewn cydweithrediad ag Aurora Nova

Comisiynwyd Yes Yes Yes yn wreiddiol gan Auckland Live

Bydd Capsiynau yn Gymraeg ac yn Saesneg ar gyfer y perfformiad yma.

Nodir os gwelwch yn dda:

Os yn archebu i weld y capsiynau Cymraeg, y seddi gorau i chi eu harchebu yw y rhai i'r dde o'r awditoriwm tra'n gwynebu'r llwyfan (rhifau seddi is).

Os yn archebu i weld y capsiynau yn Saesneg, bydd y seddi gorau i'r chwith o'r wditoriwm tra'n gwynebu'r llwyfan (rhifau seddi uchaf).