Mae Joe wedi bod yn wahanol erioed.
Yn ei arddegau, roedd yn cuddio hynny. Yn ei ugeiniau, roedd yn ei berchnogi. Yn ei dridegau bellach, mae Joe yn parhau i fod ag obsesiwn â Star Wars, Nintendo a The Muppet Christmas Carol. Ond mae wedi dechrau synhwyro rhywbeth: aflonyddwch mawr ymhlith yr edmygwyr… Ar ei ben ei hun, yn rhoi trefn ar ei hen bethau, mae Joe yn dod o hyd i hen dâp fideo, mewn hen VCR, yr oedd wedi hen anghofio amdano. Mae’n pwyso ar chwarae – ac mae rhywbeth rhyfeddol yn dechrau digwydd…
Llythyr cariad-casineb at ddiwylliant pop a hiraeth yw Fanboy. Mae’r awdur-perfformiwr arobryn, Joe Sellman-Leava (Fringe First, Labels), yn edrych ar ein perthynas ni â’n gorffennol a’n dyfodol, ac yn gofyn pam mae gan ei genhedlaeth o gymaint o obsesiwn â’i phlentyndod.
Adolygiadau
- Complex and very moving.The Scotsman
- It's a fascinating piece...full of surprisesBroadway Baby