Gweithdy Six The Musical

See dates and times  

Yn galw ar holl Frenhinesau’r Llwyfan! Ydych chi’n barod i reoli’r llwyfan fel brenhines Duduraidd?

Cyfle i ddod â steil a showbiz SIX The Musical yn fyw yn y gweithdy egnïol yma, sy’n cael ei gyflwyno gan Theatr Clwyd. Os ydych chi’n berfformiwr brwd neu ddim ond yn caru canu a dawnsio gyda ffrindiau, dyma’ch cyfle chi i:

  • Dysgu caneuon a choreograffi eiconig wedi’u hysbrydoli gan SIX - The Musical
  • Meithrin eich hyder a gwneud ffrindiau newydd
  • Archwilio themâu allweddol y sioe gerdd
  • Does dim angen unrhyw brofiad – dim ond angerdd, personoliaeth, a bod yn dipyn o Frenhines wrth gwrs!


Bydd y gweithdy yma’n cael ei gyflwyno gan Gysylltiadau Creadigol Theatr Clwyd.

Mae’r llefydd yn gyfyngedig - archebwch nawr!