
Cwmni Agored (Grwp 2)
Past Production
Maw 23 Medi 25 - Maw 30 Meh 26
Ar gyfer pawb 25+
Cyfle i archwilio eich creadigrwydd eich hun a dysgu am greu theatr gyda thîm o artistiaid dawnus a gweithwyr theatr proffesiynol Theatr Clwyd. Yn ystod y tymor cyntaf byddwch yn gwneud ffrindiau newydd ac yn datblygu eich sgiliau. Yn yr ail dymor byddwn yn adeiladu ar ddosbarthiadau meistr a gweithdai.

Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?
Tymor yr Hydref: Dydd Llun 14 Medi – Sad 12 Rhagfyr
Hanner Tymor: 26 Hydref – 31 Hydref (Dim sesiynau)
Tymor y Gwanwyn: Llun 4 Ionawr – Sad 13 Mawrth
Hanner Tymor: 8 Chwefror – 13 Chwefror (Dim sesiynau)
Tymor yr Haf: Dydd Llun 5 Ebrill – Sad 3 Gorffennaf
Hanner Tymor: 31 Mai 2024 – 5 Mehefin
Prisio
Debyd Uniongyrchol Misol | Cost |
Cost Llawn (Pris Safonol) | £27.00 |
Bwrsariaeth o 25% (Lle â Chymhorthdal) | £20.25 |
Bwrsariaeth 50% (Lle â Chymhorthdal) | £13.50 |
Bwrsariaethau a Hygyrchedd
Credwn na ddylai cyllid, costau teithio, nac anghenion mynediad fod yn rhwystr i bobl gymryd rhan.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o fwrsariaethau i helpu cyfranogwyr i gael mynediad i'n gweithdai a'n gwersi cymunedol. Nid yw ein bwrsariaethau'n seiliedig ar brawf modd ac fe'u dyfernir fesul achos yn ôl yr angen ariannol.
Os hoffech wneud cais am fwrsariaeth, cysylltwch â creative.engagement@theatrclwyd.com.
Os oes unrhyw beth arall yn eich atal chi neu'ch plentyn rhag cymryd rhan, fel gofynion mynediad neu anawsterau teithio, anfonwch e-bost at creative.engagement@theatrclwyd.com. Byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.
Gostyngiadau
Rydym yn cynnig gostyngiad o 25% i’r canlynol:
- Brodyr a chwiorydd (mae'r plentyn cyntaf yn talu'r pris llawn, mae'r ail blentyn yn derbyn gostyngiad o 25%)
- Cyfranogwyr sy'n ymuno â mwy nag un grŵp (pris llawn y grŵp cyntaf, gostyngiad o 25% ar yr ail grŵp
Bydd archebu’n agor ym mis Medi!
Cofrestrwch yma i fod y cyntaf i glywed am leoedd ar gael.