Grwp Ysgrifennu Cwils
28 Medi - 4 Gorff
Ar gyfer y rhai 17+ oed
Cyfle i archwilio a meithrin eich sgiliau fel awdur ochr yn ochr â'n harweinydd cwrs profiadol. Byddwch yn edrych ar wahanol genres – o gomedi i ddrama – a’r elfennau allweddol y mae angen i awdur gwych eu deall gan gynnwys datblygu plotiau, ysgrifennu dechrau difyr, canol campus a diweddglo diguro, a saernïo cymeriadau credadwy, realistig.
Byddwch yn siarad ag awduron gwadd, yn gweld sioeau ac yn dadansoddi’r gwaith a welwch, ac yn datblygu eich dealltwriaeth o sut mae theatr yn cael ei chreu.
Yn olaf, byddwch yn creu eich gwaith eich hun, yn derbyn adborth proffesiynol mewn amgylchedd cynnes a chefnogol a hyd yn oed yn cael y cyfle i weld eich gwaith yn cael ei droi’n weithdy a'i berfformio.
Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?
Dyddiadau Tymor 23-24
Tymor yr Hydref: Maw 25 Medi 2023 – Sad 16eg Rhag 2023
- Hanner Tymor: 30 Hyd 2023 - 4 Tach 2023 (Dim sesiynau)
Tymor y Gwanwyn: Llun 15 Ion 2024 – Sad 23 Maw 2024
- Hanner Tymor: 12 Chwef 2024 - 17 Chwef 2024 (Dim sesiynau)
Tymor yr Haf: Llun 8 Ebrill 2024 – Sad 6 Gorff 2024
- Hanner Tymor: 27 Mai 2024 - 1 Meh 2024 (Gweithgareddau Perfformiad)
Faint mae’n gostio?
Mae'n hanfodol i ni bod unrhyw un yn gallu cael mynediad i'n grwpiau a bydd ein cynllun bwrsari heb gwestiynau yn parhau yn ei le eleni. Mae’r cynllun yma’n eich galluogi chi i dalu’r pris llawn o £220 y flwyddyn, gwneud cais am 25% o ostyngiad a thalu £165 y flwyddyn, gwneud cais am 50% o ostyngiad a thalu £110 y flwyddyn neu wneud cais am fwrsari 100% a thalu dim. Mae gennym ni dair lefel o fwrsari sy’n cynnig gwahanol lefelau o ostyngiad.
Nid oes gennym broses ymgeisio fanwl am fwrsarïau gan ein bod yn ymddiried ynoch chi i dalu’r hyn y gallwch ei fforddio. Diolch i'ch gonestrwydd chi gall y rhai sydd angen ychydig o help gael y gostyngiad sydd arnynt ei angen i gymryd rhan. Os oes unrhyw beth arall yn eich atal chi rhag cymryd rhan, fel mynediad neu broblemau gyda theithio, anfonwch e-bost at takepart@theatclwyd.com ac fe wnawn ein gorau glas i helpu |
Archebu
I archebu, cysylltwch â'r swyddfa docynnau ar 01352 344101
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen unrhyw help arnoch yna mae ein tîm yma i'ch cefnogi.
E-bost: box.office@theatrclwyd.com
Ffôn: 01352 344101