Cracking

Past Production

Shôn Dale-Jones

See dates and times  

Pan aiff y byd yn wallgof, ydyn ni, yn anochel, yn mynd yn wallgof hefyd?

Pan mae terfysgwyr yn ymosod ar adeiladau’r llywodraeth yn UDA a Brasil, mae mam 83 oed Shôn yn bryderus - felly mae’n mynd yn ôl adref i Ynys Môn i ymweld â hi.

Ar ôl trip i’r archfarchnad leol, mewn ysbryd o hwyl, mae Shôn yn torri ŵy ar ei thalcen. Mae cymydog sy’n dyst i’r torri ŵy yma’n dweud wrth bobl y dref beth mae wedi’i weld. Dydi pawb ddim yn teimlo’n gyfforddus gyda mab sydd bellach yn oedolyn yn torri ŵy ar dalcen ei fam oedrannus.

Mae Cracking yn ddrama newydd ddoniol ac abswrd gan “the great Welsh storyteller” (Lyn Gardner) am safbwyntiau sy’n pegynnu, dweud celwydd fel petaech chi’n dweud y gwir a sut gall straeon ein helpu ni i mewn ac allan o drwbwl.