Eich cyfle chi i fod yn berchen ar ddarn o hanes!
Eich cyfle chi i fod yn berchen ar ddarn o hanes! Mae ein cwmni adeiladu wedi dechrau ar y safle bellach a’r cam nesaf wrth baratoi’r adeilad ar gyfer ei drawsnewid yw tynnu pob sedd o Theatr Anthony Hopkins. Bydd yr hen seddi blinedig yma'n cael eu newid felly mae gennym ni rai ar gael i'w prynu.Mae gennych yr opsiwn o brynu sedd sengl (o £10), pâr o seddi (o £20) neu driawd o seddi (o £30) – rydyn ni'n eu gwerthu yn y cyflwr maen nhw'n cael eu tynnu – bydd rhai angen rhywfaint o osod at ei gilydd. Ond cofiwch, hen seddi ydyn nhw, rydych chi'n prynu hanes nid cadair theatr mewn cyflwr perffaith!
Bydd rhaid i chi allu casglu eich seddi o Theatr Clwyd. Dylai'r seddi sengl ffitio'n gyfforddus mewn car, efallai y bydd angen fan neu gar mwy ar y parau a'r triawdau i'w casglu. Efallai y bydd angen rhywfaint o osod at ei gilydd (mân) ar rai hefyd.
Bydd y seddi ar gael i’w casglu o Theatr Clwyd ddydd Gwener 14 a dydd Sadwrn 15, o 10am tan hanner dydd ar y ddau ddiwrnod.
Agor oriel o luniau

Rydw i Dal Eisiau Sedd!
Gwych! Cliciwch ar un o’r tair dolen isod a phrynwch 1 tocyn (uchafswm o 1 y pen) ar gyfer y sedd yr hoffech ei chael. Bydd cadarnhad yn cael ei anfon atoch chi ar unwaith ac wedyn byddwn yn anfon e-bost atoch chi o fewn 3 diwrnod i roi gwybod i chi beth sy'n digwydd nesaf!
- Prynu un sedd - Cliciwch yma
- Prynu pâr o seddi - Cliciwch yma
- Prynu triawd o seddi - Cliciwch yma