Ychydig o bethau y dylech wybod cyn i ni gychwyn pethau:

1. Adnewyddwch neu ail-lwythwch y dudalen hon ar ddiwrnod y ffilm a chewch fynediad i'r perfformiad.

2. Mae ychydig o reolaethau yng nghornel dde isaf y fideo - mae un o'r rhain yn caniatáu gwylio sgrin lawn!

3. Os ydych yn profi unrhyw broblemau yna sgroliwch i waelod y dudalen hon ac mae gennym rai atebion cyffredin a allai fod o gymorth!

4. Mwynhewch y sioe!


Cael problemau? Gallwn ni helpu!

Weithiau gall un neu ddau o bobl gael problemau wrth geisio cael mynediad i’r fideo. Dyma ychydig o bethau i roi cynnig arnyn nhw:

  • Mae'r ffilm yn ymddangos yn herciog neu'n torri allan pob hyn a hyn - Gall hyn fod oherwydd eich cyflymder rhyngrwyd neu, weithiau, cyflymder eich cyfrifiadur. Ceisiwch gau unrhyw ffenestri a chymwysiadau porwr ychwanegol sydd gennych ar agor. Os ydych chi'n teipio "internet speed test" i mewn i google gallwch wirio'ch cyflymderau lawrlwytho yn gyflym. Os yw hyn yn broblem i chi a bod y ffilm wedi cael ei ddifetha, yna cysylltwch â ni.

  • Mae'n ymddangos nad yw'r ffrydiad yn gweithio – Rydym i gyd yn cael problemau technegol o bryd i’w gilydd, ac er (hyd yn hyn) rydym wedi eu hosgoi, os ydyn nhw'n digwydd yna byddwn ni'n gwneud diweddariadau byw ar ein tudalen facebook a / neu drydar .

  • Nid oes dim o hyn yn helpu mae angen i mi gysylltu - Gwnewch os gwelwch yn dda - gallwch naill ai ffonio llinell ffôn ein swyddfa docynnau (01352 344101), anfon e-bost atom (box.office@theatrclwyd.com) a chynnwys eich rhif ffôn fel y gallwn eich ffonio yn ôl, neu'n sgwrsiwch â ni ar y gwasanaeth 'Sgwrs' ar waelod y dudalen.

  • Problem Teledu Glyfar? Os oes gennych deledu clyfar efallai nad yw’n bosib mewngofnodi a gwylio o’r porwr rhyngrwyd adeiledig (gan nad ydynt yn cael eu diweddaru mor rheolaidd). Os ydych yn cael problemau rydym yn argymell eich bod (os gallech) yn cysylltu’ch cyfrifiadur neu ddyfais symudol i’r teledu gan ddefnyddio cebl HDMI neu gastio trwy Chromecast neu Airplay.

Ystyriwch wneud cyfraniad i gefnogi ein gwaith, os gwelwch yn dda.

Os ydych chi wedi mwynhau'r digwyddiad hwn ac eisiau ein helpu i barhau i ddarparu profiadau diwylliannol i bobl eu mwynhau, o berfformiadau ar ein llwyfannau i weithdai i bobl ifanc, yna helpwch ni trwy roi rhodd, os gwelwch yn dda.

Donation

Trwy roi rhodd byddwch yn cefnogi ein gwaith ar y llwyfan a thu hwnt.

Rydyn ni’n teimlo’n angerddol am greu theatr o safon byd ac wedi ymrwymo
i gefnogi dyfodol y celfyddydau drwy feithrin talent newydd a chreu
prosiectau ieuenctid a chymunedol arloesol.

Fel elusen gofrestredig, mae Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd (Rhif Cofrestru’r Elusen 1104878) yn gallu hawlio Rhodd Cymorth ar eich cyfraniad chi. Mae Rhodd Cymorth yn ffordd wych o allu rhoi ychydig bach mwy heb ddim cost ychwanegol i chi. Os ydych chi’n gymwys am Rodd Cymorth, rydyn ni’n gallu hawlio 25% gan CThEM yn ychwanegol at eich cyfraniad.

Bydd eich cyfraniad o £10 i Theatr Clwyd yn werth £12.50 wedyn!