Blog: Ailddatblygiad Theatr Clwyd
Y Fersiwn Hir (gyda lluniau)
[2,225 gair | 10 munud o ddarllen]
Gan Liam Evans-Ford | Cyfarwyddwr Gweithredol
Dim ond pan ydw iโn cymryd cam yn รดl ac anadl ddofn ydw iโn sylweddoli pa mor enfawr ydiโr prosiect yma, a hefyd sut bydd yn newid bywyd nifer enfawr o bobl.Liam Evans-Ford

Fe es i am dro heddiw, fel rydw iโn ei wneud bob pythefnos nawr โ het galed, siaced lachar ac esgidiau blaen dur โ allan drwy ddrws cefn ein cyntedd dros dro ni, drwyโr giรขt yn y byrddau pren syโn amgylchynuโr safle adeiladu, ac i mewn i'r theatr, ein cartref ni yn Sir y Fflint, i weld sut maeโr gwaith yn mynd rhagddo ar y prosiect cyfalaf enfawr yma.
Rydw i bob amser yn cael fy nharo gan faint yr adeilad โ mae fel cawr uwch eich pen chi wrth i chi gerdded i mewn โ syโn dyst i uchelgais a gweledigaeth yr arweinwyr dinesig hynny yn y 1970au.
Rydw i'n sefyll ar y prif lwyfan โ y seddi wedi'u tynnu, y carped wedi'i rwygo, y theatr yn dawel - rydw i wir yn cael fy nharo, am y tro cyntaf efallai, gan y cyflawniad enfawr o ran cyrraedd y pwynt yma.

Liam Evans-Ford
Fi sydd รขโr fraint o fod yn Gyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd โ fi ydi hanner arall tรฎm arwain y sefydliad ochr yn ochr รขโr Cyfarwyddwr Artistig, Kate. Fe wnes i ymuno yn 2016 yn fuan ar รดl i Tamara (y Cyfarwyddwr Artistig blaenorol) gyrraedd.
Roedd y ddau ohonon niโn gwybod bod angen ailddatblyguโr theatr yn sylweddol โ roedd yn amlwg โ roedd dลตr yn dod i mewn drwyโr to, y trydan yn prysur fethu, ac roedd hynny cyn i chi hyd yn oed gerdded o amgylch y cynteddau aโr bar oedd yn teimloโn hen ffasiwn ac yn flinedig (gydag arogl rhyfedd o fresych wediโu gorferwi mewn rhai ardaloedd).
Yn ystod y saith mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi ehangu ein gwaith yn sylweddol hefyd โ gan weithio llawer mwy gydaโn cymunedau ni ac ar eu cyfer, mewn ffordd na ragwelwyd yng nghynllun yr adeilad yn y 70au. Y realiti erchyll oedd, pe na bai gwaith ailddatblygu mawr yn digwydd ar yr adeilad, byddaiโr holl waith anhygoel oedd yn digwydd ar y llwyfannau ac oddi arnyn nhwโn cael ei golli โ ni fyddai Theatr Clwyd yn bodoli mwyach โ roedd pethau mor ddifrifol รข hynny.


Y ddau ofod cyntaf rydw iโn cerdded drwyddyn nhw ydiโr ddau le y bydd ein cynulleidfaoedd niโn eu hadnabod ac yn eu hoffi fwyaf โ y brif theatr (syโn cael ei hadnabod fel Theatr Anthony Hopkins ers 1994) aโr theatr stiwdio (syโn cael ei hadnabod fel Theatr Emlyn Williams ers diwedd y 1980au) โ mae'r ddau ofod yn cael eu hadnewyddu a'u diweddaru'n llwyr, ond mae'r ddau hefyd yn cael eu gwarchod i sicrhau nad ywโr elfennau allweddol sy'n eu gwneud nhwโn lleoliadau perfformio mor wych yn cael eu colli.
Mae gan y prif dลท linellau gweld anhygoel, mae'r acwsteg yn wych oherwydd y brics wedi'u cerfio รข llaw sy'n rhan o'n statws rhestredig Gradd II, ac mae'n lleoliad rhyfeddol o agos i berfformwyr a chynulleidfaoedd rannu eu hamser ynddo.
Ond mae diffygion โ y rhai gwreiddiol ywโr seddi, wedi gwisgo ac yn dueddol o gwympo โ maeโr gwaith trydan aโr elfennau iechyd a diogelwch wedi hen fynd heibio eu dyddiad diogel, maeโr hygyrchedd maeโn ei gynnig yn wael, aโr elfennau technegol syโn cefnogi cynyrchiadau o safon uchel (maeโr system hedfan a safleโr gerddorfa yn ddwy esiampl) wedi methuโn rheolaidd yn ystod y 15 mlynedd diwethaf.
Y stiwdio, a dweud y gwir, ydi fy hoff le i โ maeโn gwbl hyblyg ac yma mae rhai o fy hoff atgofion
Y stiwdio, a dweud y gwir, ydi fy hoff le i โ maeโn gwbl hyblyg ac yma mae rhai o fy hoff atgofion i โ o weld fy hoff sioe yno (Insignificance wediโi chyfarwyddo gan ein cyfarwyddwr artistig ni, Kate Wasserberg โ maeโn rhaid fy mod i wedi ei gwylio fwy na deg o weithiau yn ystod y rhediad!) ond yma hefyd y dechreuodd ein siwrnai ni i Wobrau Olivier gyda pherfformiad cyntaf syfrdanol Home, I'm Darling. Unwaith eto, dydyn ni ddim eisiau chwarae gyda phethau syโn gweithio (ac yn gweithio'n anhygoel o dda) - mae'r gwaith trydan yn cael ei newid yn llwyr, mae'r balconรฏau a'r bocs technegol yn hygyrch am y tro cyntaf, maeโr galluoedd creu theatr yn cael eu gwella, aโr seddi'n cael eu hadnewyddu.
Rydyn ni wedi bod yn hynod ffodus o gael cefnogaeth Cyngor Sir y Fflint, Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru drwy gydol y siwrnai hon. Peth prin a gwerthfawr ydi cael awdurdod lleol syโn gwerthfawrogi cymaint ar ddiwylliant โ rydyn niโn gweithio gydaโn gilydd ar y cyd, ochr yn ochr โ mae ein tรฎm ymgysylltu creadigol niโn gweithio gydaโr gwasanaethau cymdeithasol yn wythnosol i gynnal rhaglenni syโn gweithio gyda rhai oโr bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni. Maen nhwโn cydnabod yr hyn y mae gwaith Theatr Clwyd yn ei wneud โ dod รข phobl i fyw, gweithio, ymweld ac aros yn Sir y Fflint; creu budd enfawr i'r economi leol; cynnig cyflogaeth i gannoedd o bobl - ond yn fwy na hynny, yn y bรดn, fe all y celfyddydau wneud y byd yn lle gwell, hapusach i fyw ynddo.
I lawr i'r cynteddau ac yn sydyn mae popeth yn edrych yn ddieithr iawn - mae cynteddau'r 1970au wedi mynd, nenfydau ffug wedi'u tynnu, y toiledau cyfyng wedi diflannu, ac esgyrn yr adeilad yn y golwg am y tro cyntaf ers ei adeiladu, bellach yn atseinio ac yn wag.


Iโr rhan fwyaf o bobl dyma lle bydd y gwahaniaeth mwyaf iโw deimlo โ fe ddywedwyd wrthaโ i yn fuan ar รดl i mi ddechrau, er bod gan Theatr Clwyd dรฎm anhygoel syโn gwneud cynyrchiadau o safon byd, nad oedd profiad y gynulleidfa yn cyd-fynd รข safonau mor uchel. Bydd yr ailddatblygiad yn newid hynny er gwell, gyda blaen yr adeilad wedi'i ehangu'n aruthrol, bwyty newydd ar y llawr cyntaf, caffi i gwrdd รข ffrindiau a theulu ar y llawr gwaelod. Does dim rhaid i chi ddod i weld sioe i fwynhau hwn - bydd yn fan ymgynnull i bawb gwrdd, ymlacio a threulio amser. Bydd y ceginau a dynnwyd yn y 1990au yn dychwelyd ac, o'r diwedd, byddwch chi'n gallu gwneud noson ohoni, o swper cyn y sioe i ddiodydd ar รดl y sioe.
Toiledau? Mae cwestiynau bob amser am doiledau. Yn wir, cyn dod yn weithredwr mewn theatr, fe ddywedwyd wrthaโ i y byddai llawer o fy amser yn cael ei dreulio ar drafodaethau ar doiledau (ddim yn hollol wir โ ond mae bob amser yn bwnc llosg!)
Fe fydd toiledau yma. Cymaint o doiledau. Oโr diwedd, bydd ciwiau erchyll y nosweithiau llawn (yn enwedig yn nhoiledauโr merched) yn rhywbeth o'r gorffennol. Hefyd bydd gennym ni lefydd newid (y rhai cyntaf yng Ngogledd Cymru yn รดl y sรดn) oโr safon uchaf, toiledau wediโu cynllunio at ddefnydd plant ifanc a theuluoedd, dynion, merched, a rhyw niwtral. Fe wnes i ddweud wrthaโ chi y byddai toiledau yma!!


Ym mhob man lle rydw iโn cerdded mae atgof โ atgofion hyfryd am yr ลดyl Gelfyddydol i Deuluoedd lle bu pobl ifanc yn paentioโr ffenestri, ond hefyd atgofion am amseroedd heriol, pan oeddwn iโn sefyll ar fy mhen fy hun mewn adeilad wedi cau oherwydd Covid. Maeโr rhwystrau a daflwyd atom ni oherwydd Covid yn rhoi hyder i mi fod llywio prosiect cyfalaf mor enfawr รข hwn yn bosibl โ fe ddaethon ni drwyโr pandemig oedd yn llawer mwy o her.
Wrth edrych o gwmpas ar y concrid noeth, rydw iโn cael fy atgoffa o ba mor swnllyd oedd y bar, yn fyddarol weithiau, felly โ rydyn niโn gweithio gyda pheiriannydd acwstig i leihauโr sลตn syโn cael ei greu gan gyntedd prysur. Cadwโr awyrgylch aโr bwrlwm ond gwneud yn siลตr ei fod yn lle braf i fod ynddo hefyd.
Maeโr gwaith stripio iโw weld fwyaf yn yr oriel, stryd fawr yr adeilad, lle mae arddangosfeydd gan rai o artistiaid gweledol gorauโr DU i bypedau Cosgrove Hall wedi bod. Yn flaenorol, roedd yn teimloโn gyfyng bron, yn ddienaid, ac yn bendant yn oer. Nawr gydaโr nenfydauโn uwch maeโn teimloโn odidog, gydaโr golauโn arllwys i mewn ac maeโr raddfaโn eich taro chi โ mae hwn yn ofod enfawr, yn ofod enfawr ar gyfer rhannu celf, gan arddangos y gorau oโr hyn sydd gennym ni iโw gynnig, yn cysylltu ein cyntedd, y theatrau, y sinema aโr mannau cymunedol gydaโi gilydd, ac i groesawu niferoedd mawr o bobl i ben ein bryn ni yng Ngogledd Cymru.
I lawr yn ystafell Clwyd mae rhywfaint o'r gofod wedi diflannu, wedi'i ddymchwel. Bydd yn cael ei adfywio, ei fywiogi aโi adnewyddu. Pan agorodd yr adeilad yn 1976, hwn oedd calon y digwyddiadau cymunedol โ priodasau, pen blwyddi, angladdau a digwyddiadau dinesig. Bydd y gegin newydd yn gwneud hwn yn ofod tebyg eto โ gan ddod รข phobl at ei gilydd ar gyfer eu hachlysuron pwysig (er, maeโn deg dweud, y tro yma ni fydd yn cynnwys cogydd yn rhoi sylw arbennig i fenyn โ ie, menyn โ oes wahanol yn wir! Gwylio ar youtube).


Pan wnaethon ni ddechrau ar y siwrnai yma, roedden niโn eithriadol ffodus o sicrhau gwasanaethau Howarth Tompkins, penseiri arobryn sydd wedi ennill Gwobr Sterling. Maen nhw wedi cyflwyno rhai o brosiectau diwylliannol mwyaf y byd, lleoliadau nodedig fel y National Theatre, y Liverpool Everyman aโr Bristol Old Vic, a nawr maen nhwโn cyflawni dros Ogledd Cymru.

I fyny'r grisiau ac rydw i dan do ac yn yr awyr agored. Yng nghragen yr hyn a oedd, flwyddyn yn รดl, yn swyddfa farchnata a datblygu brysur, ond sydd bellach yn agored i'r elfennau, a heulwen ac awyr las ydiโr unig bethau uwch fy mhen. Nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd yn รดl pob tebyg. Fe glywais i stori gan un oโn tรฎm ni oedd yn arfer gweithio yn y swyddfa yma. Un Nadolig, fe ddaethon nhw i mewn i ddarganfod, ar รดl storm, bod rhan fawr oโr to ar goll, a bod y gweddillion wediโu gwasgaru dros gae cyfagos. Wrth i eira ddod i mewn, yn ansicr iawn ynghylch beth iโw wneud mewn sefyllfa oโr fath, fe aethon nhw ati i gasgluโr darnau oโr to aโu gosod nhw mewn pentwr wrth i gynulleidfaoedd y panto basio gan edrych yn chwilfrydig โ y cyfan yn rhan oโr diwrnod gwaith. Maeโr stori honnoโn un o blith llawer am geisio rheoli adeilad oedd yn methu mewn amrywiaeth o ffyrdd. Wrth i mi sefyll yn yr awyr agored, yn yr hyn a fydd yn ystafell ymarfer newydd i ni, rydw iโn cofioโr hanfodion rydyn niโn mynd iโw cyflawni, to uwch ein pen ac amser i ganolbwyntio ar ein cynulleidfaoedd aโn cymunedau yn hytrach na delio รข darnau o nenfwd yn y cae.
Wrth gwrs, dydi prosiectau fel hyn ddim yn digwydd yn aml - prosiectau enfawr a all fod yn gatalydd ar gyfer buddsoddi ac adnewyddu. Maen nhw'n ddrud hefyd. Cyn y prosiect yma, y swm mwyaf a godwyd erioed drwy godi arian preifat ar gyfer adeilad diwylliannol yng Nghymru oedd ยฃ2.5m. Fe ddywedwyd wrthym ni mai'r gorau y gallem obeithio amdano oedd ยฃ2m. Ond Theatr Clwyd ydi hon, ac rydyn niโn ymdrechu i gyflawni ar lefel uchel ym mhopeth rydyn niโn ei wneud, a nawr rydyn ni wedi codi mwy na ยฃ4m โ y mwyaf erioed yng Nghymru, ac mae gennym ni fwy iโw wneud eto i gyrraedd y targed terfynol ar gyfer y prosiect hanfodol yma.


Wrth i mi fynd tuag at allanfaโr safle, mae รดl troed ein gweithdy adeiladu golygfeydd newydd ni iโw weld โ y ffosydd aโr sylfeini ar gyfer yr hyn a fydd yn ffatri theatrig, lle bydd setiauโn cael eu hadeiladu ar gyfer sioeau a fydd yn teithio o amgylch Cymru, o amgylch y DU, efallai, hyd yn oed, o amgylch y byd. Setiau wediโu hadeiladu gan bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Sir y Fflint, gan gadw'r sgiliau allweddol sy'n hanfodol i sicrhau bod gan y DU y diwydiannau diwylliannol gorau yn y byd. Wrth ymyl y gweithdy mae ystafell y peiriannau โ nid y lle mwyaf cyffrous o bosib, ond un a fydd yn newid ein heffaith ni ar y byd yn sylweddol. Ni fydd nwy yn yr adeilad newydd โ byddwn yn defnyddio pympiau gwres ffynhonnell aer i redeg yr adeilad. Byddwn yn cynaeafu ynni solar a dลตr glaw, bydd gennym ni fioamrywiaeth ar doeau a waliau allanol, a bydd gennym niโr potensial i redeg adeilad carbon positif yn y dyfodol.
Rydw i'n tynnu fy het galed, fy siaced aโr esgidiau trwm ac yn cerdded o amgylch blaen yr adeilad tuag at y maes parcio i yrruโn รดl i'n swyddfeydd dros dro ni yng nghanol yr Wyddgrug. Mae blaen yr adeilad wedi diflannu bellach โ wediโi rwygo i lawr i gael ei ddisodli gan gyntedd modern oโr radd flaenaf โ nid yn unig i gynnig gofod gwell, mwy i gynulleidfaoedd a chymunedau dreulio amser ynddo, ond i fod yn llai tebyg i gaer ac yn fwy cysylltiedig รข'r tu allan - gan fanteisio iโr eithaf ar y golygfeydd godidog ar draws Bryniau Clwyd.
Rydw i wedi bod yn gweithio tuag at y gwaith hanfodol yma ers 7 mlynedd bellach, ac wedi bod yn ymwneud รข phopeth syโn rhan ohono, o ddylunio i gadwraeth a chynllunio, hyd at gyllid o ffynonellau cyhoeddus a phreifat. Dim ond pan ydw iโn cymryd cam yn รดl ac anadl ddofn ydw iโn sylweddoli pa mor enfawr ydiโr prosiect yma, a hefyd sut bydd yn newid bywyd nifer enfawr o bobl.
Dim ond hanner ffordd ydyn ni, wrth gwrs, ar ein siwrnai. Pan fydd yr adeilad newydd yn ailagor yn llawn yn gynnar yn 2025, bydd yn ogoneddus, Ond, cyn hynny, mae gennym niโr darnau olaf yn y jig-so codi arian i ddod o hyd iddyn nhw. Dyma lle mae angen eich help chi โ fe allwch chi noddi teilsen, neu ddrych ystafell wisgo, enwi sedd, cynnal arwerthiant pobi neu gyfrannu anrheg. Os ydych chi eisiau cael gwybod mwy, cliciwch yma.
Yn olaf.
Hyd yn oed gyda hyn i gyd yn digwydd - rydyn ni ar agor o hyd! Yn creu sioeau ac yn rhannuโr theatr, y gomedi aโr gerddoriaeth orau โ boed hynny yn ein lleoliad dros dro ni, The Mix, drws nesaf iโr Theatr, yn ein chwaer leoliad yn Neuadd William Aston yn Wrecsam neu o Dafarn y Dolphin yn yr Wyddgrug lle mae ein cynhyrchiad cyfranogol ni o The Great Gatsby wediโi leoli am dri mis yn dilyn rhediad o dair blynedd yn y West End.
Diolch i chi am ddarllen hwn, diolch i chi am eich cefnogaeth, am barhau i ddod i weld ein sioeau ni, ac am fod yn amyneddgar mewn cynteddau dros dro ac am fod mor barod i ddeall wrth i ni wireddu'r freuddwyd enfawr yma. Rydyn niโn gwneud hyn ar gyfer ein holl gymunedau ni, ar gyfer ein hartistiaid, ar gyfer pobl Sir y Fflint, Gogledd Cymru a thu hwnt. Rydyn ni'n gwneud hyn i sicrhau bod ein dyfodol niโn ddisglair.
Gyda'ch help a'ch cefnogaeth chi, fe fydd.


