Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Under Milk Wood
CRAIDD A THEATR CLWYD โ UNDER MILK WOOD
PECYN GWYBODAETH CYFARWYDDWR CYNORTHWYOL
Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Cynorthwyol i gefnogi ein cynhyrchiad sydd i ddod o UNDER MILK WOOD gan Dylan Thomas, wedi'i gyfarwyddo gan Kate Wasserberg โ cynhyrchiad teithiol newydd mawr, y cyntaf o bedwar cynhyrchiad fel rhan o Bartneriaeth Craidd.
Mae Craidd yn gydweithrediad uchelgeisiol ledled y sector ar draws pum sefydliad theatr yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i drawsnewid cynrychiolaeth DDN (Byddar, anabl a niwroamrywiol) mewn theatr brif ffrwd. Theatr Clwyd yw'r prif bartner yn y fenter hon a'r cynhyrchiad sydd i ddod o UNDER MILK WOOD fydd y cynhyrchiad cyntaf gan y bartneriaeth.
Ein huchelgais ni ar gyfer y Cyfarwyddwr Cynorthwyol yw darparu profiad manwl i gyfarwyddwr mewn cyfnod cynnar yn ei yrfa sydd nid yn unig yn canolbwyntio ar y broses ymarfer ond sydd hefyd yn cwmpasu'r ystod o ffyrdd y gallai cyfarwyddwr weithio gyda theatr i greu siwrnai gyrfa gynaliadwy. Bydd yn darparu cyfle sy'n gynyddol brin ym myd y theatr, ac mae'n rhywbeth y mae gan Theatr Clwyd enw da am ei gyflawni mewn ffordd syโn cael effaith barhaol ar siwrnai a chyfleoedd gyrfa'r crรซwr theatr.
Mae'r cyfle hwn ar agor i gyfarwyddwyr theatr o Gymru neu sydd wediโu lleoli yng Nghymru sy'n uniaethu fel Byddar, Anabl a / neu Niwroamrywiol, sydd dros 18 oed ac sydd รข chefndir amlwg mewn cyfarwyddo theatr ac sydd eisiau datblygu eu harfer ymhellach. Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan gyfarwyddwyr DDN sydd eisiau dychwelyd i'r diwydiant efallai ar รดl cyfnod i ffwrdd - am ba bynnag reswm - ac sydd eisiau ailintegreiddio i ddiwydiant y theatr.
Gwybodaeth arall am y lleoliadau
Fel rhan o'r cynhyrchiad rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd lleoliad mewn Cynllunio Set a Gwisgoedd a Goleuo a Chlyw-weledol ar gyfer crรซwyr theatr talentog o Gymru neu wediโu lleoli yng Nghymru syโn uniaethu fel Byddar, anabl a / neu Niwroamrywiol. Byddant yn elwa o becyn cefnogi unigryw a phwrpasol yn Theatr Clwyd drwy fenter Craidd.
Ochr yn ochr รข Chyfarwyddwr Cynorthwyol ar y cynhyrchiad, bydd y tรฎm ymaโn gallu cynnig cefnogaeth cydweithwyr iโw gilydd ac archwilio eu creadigrwydd aโu llwybr eu hunain drwyโr diwydiant. Rydym yn gwerthfawrogi sut mae mynediad iโr diwydiannau creadigol yn parhau i fod yn rhwystr i bobl ac rydym yn gweithio i gefnogi gweithwyr llawrydd ond hefyd yn cydnabod y rhwystrau parhaus (a chynyddol) i greu a chynnal gyrfa yn y diwydiannau creadigol.
Gwybodaeth Bwysig
y Rรดl
Bydd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn gynorthwy-ydd i'r cyfarwyddwr Kate Wasserberg yn ogystal รข phobl greadigol allweddol eraill ar y cynhyrchiad, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Iaith Arwyddion Prydain, Adam Bassett, a'r Cyfarwyddwr Cyswllt, Katie Elin-Salt, ar gynhyrchiad UNDER MILK WOOD.
Dyddiadau
Mae'r cyfleโn rhedeg o 19eg Ionawr 2026 tan 20fed Mawrth 2026. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn bresennol yn yr adeilad yn llawn amser yn ystod y lleoliad. Yr oriau gwaith arferol fydd 10am โ 6pm, ond bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau, yn enwedig yn ystod yr wythnosau technegol aโr sioeau ymlaen llaw
Dyletswydd a Chyfrifoldebau
Bydd y rรดl yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iโr canlynol:
โข Cefnogi'r Cyfarwyddwr yn ystod y broses ymarfer drwy gymryd nodiadau a chefnogi cynnal yr ymarferion aโr ymarfer technegol yn esmwyth.
โข Mynychu pob ymarfer, cyfarfod cynhyrchu, ymarferion technegol, sioeau ymlaen llaw, aโr noson i westeion.
โข Cyfrannu at drafodaethau gyda'r tรฎm creadigol ac mewn cyfarfodydd cynhyrchu.
โข Cynnal unrhyw ymchwil a fydd yn llywio ac o fudd i'r cynhyrchiad fel y cytunir gyda'r Cyfarwyddwr.
โข Pan ofynnir i chi wneud hynny, goruchwylio ymarferion, arwain ymarferion cynhesu, camu i mewn i rรดl y cyfarwyddwr i arwain ymarferion, a chefnogi gyda gofal bugeiliol yr actorion a'r tรฎm creadigol.
โข Bod yn seinfwrdd yn yr ystafell ymarfer, cynnig nodiadau lle bo hynny'n briodol a bod yn arsylwr gweithredol yn yr ystafell i gymryd rhan mewn trafodaethau defnyddiol a gweithredol gyda'r cyfarwyddwr y tu allan i'r ystafell ymarfer.
โข Lle bo angen, cefnogi'r cwmni actio gyda dysgu llinellau.
โข Rhoi nodiadau ar y sioe / actorion yn รดl yr angen.
โข Cysylltu รข'r tรฎm Rheoli Llwyfan.
โข Cefnogi gweledigaeth y cyfarwyddwr a'r tรฎm creadigol ar gyfer y cynhyrchiad.
โข Cynorthwyo'r cwmni i ddogfennu'r broses ymarfer at ddibenion marchnata, archifo a gwerthuso'r prosiect drwy flogiau, cyfryngau cymdeithasol a ffurfiau eraill fel y cytunir gyda'r tรฎm Cynhyrchu yn Theatr Clwyd a Craidd.
โข Cyfrannu at unrhyw weithgareddau neu ddigwyddiadau ymgysylltu creadigol ac addysgol drwy gytundeb รข'r Cyfarwyddwr a'r Cynhyrchydd.
โข Mynychu a chymryd rhan mewn trafodaethau ar รดl y sioe drwy gytundeb รข'r Cynhyrchydd.
โข Cefnogi'r cynhyrchiad ar daith, ymarfer y cynhyrchiad yn y lleoliadau, cefnogi'r actorion a'r tรฎm creadigol i symud y cynhyrchiad i leoliadau gwahanol.
โข Rhoi nodiadau ar y sioe ddwywaith yr wythnos ar รดl noson y wasg gan ymgynghori รข'r cyfarwyddwr.
โข Unrhyw ddyletswyddau pellach fel syโn ofynnol gan y Cyfarwyddwr.
Hefyd bydd Theatr Clwyd a Craidd yn darparuโr canlynol:
โข Dau gyfarfod un i un o leiaf gyda'r Cyfarwyddwr yn ystod y broses ymarfer.
โข Un cyfarfod un i un olaf gyda'r Cyfarwyddwr ar ddiwedd y lleoliad i werthuso'r profiad.
โข Mynediad i wahanol adrannau o fewn Theatr Clwyd i gyflawni diddordebau penodol yr unigolyn a chefnogi ei ddatblygiad wrth ddeall meysydd eraill yng ngwaith y Theatr.
โข Mynychuโr cyfarfodydd cynllunio sy'n gysylltiedig รข'r cynhyrchiad.
โข Mynychuโr cyfarfodydd cynhyrchu sy'n gysylltiedig รข'r cynhyrchiad.
โข Cefnogaeth gan Asiant dros Newid Craidd yn Theatr Clwyd i gefnogi a datblygu ei ddealltwriaeth o sut maen nhw'n llywio'r diwydiant fel crรซwr theatr Byddar, Anabl a / neu Niwroamrywiol.
โข Cefnogaeth gan Gyfarwyddwr Stiwdio Clwyd, gan gynnwys gwerthusiad llawn o'r lleoliad, ysgrifennu adroddiadau a chreu Strategaeth Gadael i gefnogi ei ddatblygiad parhaus.
Gan mai hwn ywโr cynhyrchiad cyntaf fel rhan o Bartneriaeth Craidd, gofynnir i'r derbynnydd gymryd rhan mewn gwerthusiad llawn o'r Cynllun.
Meini Prawf Hanfodol
Rydym yn edrych am rwyn sy'n gallu bodloni'r canlynol:
- Gallu dangos ymrwymiad i gyfarwyddo ac angerdd dros greu theatr.
- Gallu dangos diddordeb angerddol yn natblygiad a phroses addasiadau newydd o waith ar y llwyfan.
- Trefnus, hyderus, hyblyg, digynnwrf a hawdd siarad ag ef neu hi.
- Wedi cael rhywfaint o brofiad o gyfarwyddo mewn swyddogaeth broffesiynol neu ar y cyrion โ gan ymgysylltu ag actorion proffesiynol nad ydynt yn gysylltiadau personol yn unig ar gyfer cynulleidfa sy'n talu.
- Aelod da o dรฎm sy'n barod i weithio ar y cyd fel rhan o dรฎm sy'n cynnwys pobl greadigol, actorion, rheolwyr llwyfan a staff Theatr Clwyd.
- Profiad o gydlynu a hwyluso ymarferion, gan gynnwys blocio golygfeydd, cynnal ymarferion llinellau, a chynnal amserlenni ymarfer.
- Enw da am gydweithio'n effeithiol gydag actorion, gan ddarparu arweiniad ac adborth.
- Gallu clir i ymdrin รข heriau ac argyfyngau annisgwyl yn ystod ymarferion a pherfformiadau.
- Wedi'i leoli yng Nghymru neu o Gymru gydag ymrwymiad i greu gwaith yng Nghymru.
- Dros 18 oed a heb fod mewn addysg na hyfforddiant ffurfiol ar hyn o bryd.
Meini Prawf Dymunol
- Trwydded yrru lawn a glรขn.
- Profiad o weithio fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol.
- Profiad o ymchwil cyn cynhyrchu.
- Rhugl yn y Gymraeg.
- Dangos ymrwymiad i greu gwaith sy'n archwilio cynhwysiant, hygyrchedd a mynediad integredig.
- Diddordeb amlwg mewn ehangu cynrychiolaeth ac amrywiaeth o fewn y theatr, gan gynnwys ymrwymiad clir i wrth-hiliaeth ac ymrwymiad i gefnogi cydweithredwyr o ystod eang o gefndiroedd.
- Profiad o weithio ochr yn ochr รข thimau Ymgysylltu Creadigol a phrosiectau allgymorth cymunedol.
Dim ond i artistiaid Byddar, Anabl a niwroamrywiol y mae'r cyfle hwn ar gael; yn Theatr Clwyd rydym yn cofleidio croestoriadedd ac yn annog yn gryf geisiadau gan artistiaid o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, artistiaid sy'n Ddu, yn Asiaidd neu o'r Mwyafrif Byd-eang.
Amserlen
5ed Medi 2025 | Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
w/d 22ain Medi 2025 | Yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael gwahoddiad i fynychu ac arsylwi'r Cyfarfod Cynllunio Terfynol ar gyfer UNDER MILK WOOD. Yn dilyn y cyfarfod hwn, bydd cyfweliadauโn cael eu cynnal gyda'r Cyfarwyddwr Kate Wasserberg, y Cyfarwyddwr BSL Adam Bassett, aelod o'r Tรฎm Creu yn Theatr Clwyd ac aelod o dรฎm Craidd. |
3ydd Hydref 2025 | Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael gwybod a bydd y broses groesawu yn dechrau. |
19eg Ionawr 2026 | Y lleoliad yn dechrau yn Theatr Clwyd. Wythnos Groesawu / wythnos baratoi cyn yr ymarferion |
26ain Ionawr 2026 | Yr ymarferion yn dechrau ar gyfer UNDER MILK WOOD |
2il - 7fed Mawrth 2026 | WYTHNOS DECHNEGOL / wythnos ymarfer derfynol ar UNDER MILK WOOD |
9fed โ 14eg Mawrth 2026 | WYTHNOS DECHNEGOL / SIOEAU YMLAEN LLAW ar UNDER MILK WOOD |
Wythnos yn dechrau ar 16eg Mawrth 2026 | SIOEAU YMLAEN LLAW A NOSON I WESTEION ar UNDER MILK WOOD |
19eg Mawrth 2026 | Mynychu Noson i Westeion UNDER MILK WOOD |
w/d 13eg Ebrill 2026 | Presennol yn ein lleoliad cyntaf ar y daith yn Theatr y Torch |
w/d 20fed Ebrill 2026 | Cyfarfod Terfynol gyda'r Cyfarwyddwr Cwblhau Adroddiad Gwerthuso a Chyfarfod Strategaeth Gadael gyda Craidd a Stiwdio Clwyd Y Contract yn Dod i Ben |
Disgwylir i'r lleoliad hwn gynnwys yr ymrwymiad amser canlynol, yn amodol ar gytundeb gyda'r derbynnydd โ
ยท Wythnos 1 โ Wythnos Groesawu a pharatoi ac ymchwil cyn ymarferion โ 37 awr
ยท Wythnos 2 โ Wythnos Un yr Ymarferion โ 37 awr
ยท Wythnos 3 โ Wythnos Dau yr Ymarferion โ 37 awr
ยท Wythnos 4 โ Wythnos Tri yr Ymarferion โ 37 awr
ยท Wythnos 5 โ Wythnos Pedwar yr Ymarferion โ 37 awr
ยท Wythnos 6 โ Wythnos Pump yr Ymarferion โ 37 awr
ยท Wythnos 7 โ Wythnos Chwech yr Ymarferion โ 37 awr
ยท Wythnos 8 โ Technegol a Sioeau Ymlaen Llaw โ 43 awr
ยท Wythnos 9 โ Sioeau Ymlaen Llaw / Noson i Westeion โ 43 awr
ยท Wythnos 10 โ Symud i Leoliad 1af y Daith โ presennol a chefnogiโr Cyfarwyddwr gyda symud i leoliad cyntaf y daith โ 43 awr
Bwrsari
Gallwn gynnig taliad bwrsari prynu allan o ยฃ6,470 (10 wythnos am ยฃ647 yr wythnos) i Gyfarwyddwr Cynorthwyol Under Milk Wood.
Bydd Theatr Clwyd hefyd yn cefnogi'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol gyda chyllideb teithio a chynhaliaeth o ยฃ2,445 (cynhaliaeth โ 10 wythnos am ยฃ245 = ยฃ2,450 a theithio 2x ยฃ120 = ยฃ240)
Bydd y gyllideb ymaโn cael ei rheoli gan Theatr Clwyd a bydd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn cael ei ad-dalu ar รดl cyflwyno derbynebau am dreuliau.
Bydd Cefnogaeth Mynediad ar gael hefyd ac yn cael ei chynnig gan Theatr Clwyd a Craidd.
Bydd y ffiโn cael ei gwneud fel taliad bwrsari mewn tri rhandaliad. Bydd rhaid i'r ymgeisydd fod yn gyfrifol am ei Daliadau Yswiriant Gwladol a Threth ei hun. Os nad yw wedi'i sefydlu fel unigolyn hunangyflogedig, gall Theatr Clwyd ei gefnogi i wneud hyn.
Gwneud Cais
I wneud cais am y bwrsari yma, anfonwch y canlynol atom ni โ
ยท CV cyfredol (dim mwy nag un ochr papur A4)
ยท Dolen i'ch gwefan neu bortffolio o waith
ยท Pam ydych chi'n teimlo y byddai hyn yn ddefnyddiol ar hyn o bryd yn eich datblygiad fel Cyfarwyddwr? (300 gair / hyd at 3 munud o fideo)
ยท Sut mae eich profiad yn bodloni'r Meini Prawf Hanfodol a amlinellir uchod? (300 gair / hyd at 3 munud o fideo)
ยท Pam ydych chi'n teimlo bod partneriaeth Craidd a gwaith hygyrch cwbl gynhwysol yn bwysig i'ch ymarfer theatr? (200 gair / hyd at 2 funud o fideo)
Hefyd dylech gynnwys manylion am unrhyw anghenion mynediad i'ch cefnogi i fynychu'r cyfweliad os cewch eich rhoi ar y rhestr fer โ cofiwch na fydd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses o lunio rhestr fer aโr unig ddiben i gynnwys y wybodaeth yma yw sicrhau ein bod yn gallu rhoi unrhyw gefnogaeth yn ei lle yn brydlon.
Dylech gynnwys manylion dau ganolwr hefyd โ yn ddelfrydol, cydweithredwr creadigol a Chyfarwyddwr Artistig neu gynhyrchydd rydych chi wedi gweithio ag ef โ er mai dim ond gyda'ch caniatรขd chi y byddwn yn cysylltu รขโr rhain os byddwn yn mynd รข'ch cais drwodd i gam olaf y broses.
Gallwn dderbyn ceisiadau ysgrifenedig neu fideo.
Gallwn hefyd dderbyn ceisiadau yn y Gymraeg ac yn Iaith Arwyddion Prydain. Cyflwynwch eich cais i - stiwdio@theatrclwyd.com