12 sioe mae’n rhaid i chi eu gweld!
'Rydyn ni wedi creu ein rhestr o theatr, sioeau teuluol, perfformiadau cerddorol a chomedi anhygoel sydd ar gael dros yr Haf! Mae rhywbeth i bawb y tymor yma - go iawn!
Mae'r sioeau'n cael eu cynnal ar draws tri lleoliad yma yn y theatr, gan gynnwys y tu mewn i'r adeilad ac ar ein llwyfan awyr agored. Mae eich diogelwch yn hollbwysig i ni, ac mae pob sioe yn cynnwys cadw pellter cymdeithasol gyda mesurau diogelwch covid ar waith.
1: For the Grace of You Go I
Yn ychwanegu cigoedd at pizzas, nid yw bywyd Jim yn mynd i unman. Ond wrth wylio I Hired A Contract Killer, mae’n dod o hyd i ateb – fe fydd yn trefnu i rywun ei ladd. Beth allai fynd o’i le?
Comedi newydd, ddoniol, dywyll.
2: Curtain Up
Dramâu byrion gan awduron mwyaf cyffrous Cymru. Theatr ar ei mwyaf byw. Bob wythnos, pum drama fer newydd yn cael eu perfformio fel casgliad gyda’i gilydd gan 10 actor. Chi sy’n penderfynu pwy sy’n chwarae pwy a’u props a’u gwisgoedd.
3: Judy & Liza
Mae Judy Garland a Liza Minnelli yn ôl gyda’i gilydd unwaith eto diolch i’r profiad cerddorolarbennig yma.
4: Sarah and Duck's Big Top Birthday
Bydd pypedau, straeon a cherddoriaeth yn dod â’r rhaglen lwyddiannus yma gan CBeebies sydd wedi ennill BAFTA yn fyw i bawb.
5: How to Win Against History
Sioe gerdd eithriadol ddoniol. Roedd 5ed Marcwis Ynys Môn yn byw i gael sylw. Ond pan fu farw, diflannodd o hanes. Mae rhai divas yn rhy nodedig i ffitio i mewn.
6: Ennio the Little Brother
Cymysgedd o bop soul breuddwydiol a hip-hop cartref gyda sain feddal ar y gitâr a barddoniaeth delynegol.
7: Le "Best Of" de Marcel Lucont
Mae hoff gomedïwr Ffrengig y DU yn cyflwyno ei oeuvres gorau. Gallwch ddisgwyl ffraethineb difynegiant, barddoniaeth anweddus a chaneuon bwriadol bruddglwyfus.
8: EÄDYTH and Izzy Rabey
Cydweithrediad sy’n creu hip-hop dwyieithog hyfryd o’r safon uchaf, yn llawn enaid.
9: Sunnymead Court
Rhamant ryfedd i godi a chynhesu’r galon wedi’i lleoli yn ystod y cyfnod clo. Wedi’i henwebu am bedair OFFIE
10: Gwrach yr I â
Mae Vasilisa’n cael ei herwgipio gan Wrach yr Iâ. I ddiancbydd arni angen ei holl ddewrder, a Thedi Bêr
11: Catching Comets
Mae Toby yn darganfod comed yn rhuthro tuag at y Ddaear, felly mae’n dechrau ar ymgyrch i achub y byd.
12: Blindness
Gosodiad sain sy’n adrodd stori bwerus pandemig byd-eang sy’n gwneud i bobl fynd yn ddall. Lleisir gan Juliet Stevenson (Emma, Bend It Like Beckham, Mona Lisa Smile).