Jennifer Lunn
Cyrhaeddodd drama lawn gyntaf Lunn, Es and Flo, restr fer Gwobr Verity Bargate a rhestr hir Gwobr Bruntwood yn 2017, a chafodd ei chomisiynu gan Ganolfan Mileniwm Cymru. Mae ei gwaith ysgrifennu arall yn cynnwys Diaries of a Miserable Unicorn (taith yn y DU), Dining with Copernicus (The Lab Collective a Polish Cultural Institute), Belief, Lockdown (The Other Room), ac Imagine, Clash of the Cosmos (Dirty Protest). Mae Lunn wedi gweithio’n helaeth gyda gwaith ysgrifennu newydd; cydsylfaenodd ŵyl ysgrifennu newydd Write Now yn Brockley Jack Theatre; dwy flynedd fel Pennaeth Prosiectau a Chynhyrchu Digwyddiadau yn y National Theatre yn Llundain; a Phennaeth Cynhyrchu presennol Ellie Keel Productions. Mae hefyd yn gweithio fel Adroddwr Straeon ar gyfer Read For Good, elusen sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd mewn Ysbytai ar hyd a lled y DU.