Hannah Daniel
Mae Daniel yn awdur ac actor o Gaerdydd. Yn 2017, ysgrifennodd a chyfarwyddodd Daniel a Georgia Lee eu ffilm fer gyntaf Destination, a’r llynedd cawsant gyllid o Gronfa Beacons Ffilm Cymru/BBC Wales i ffilmio eu hail ffilm fer Burial/O Dad yn Deulu Dedwydd. Ar hyn o bryd mae’n datblygu drama gomedi wreiddiol, Cardiff is the Capital of the World, gyda Vertigo Films. Cafwyd première ei drama fer Eros(Cuntstruck) yn The Old Red Lion Theatre ym mis Mawrth 2019. Fel actor, mae ei rhannau yn y theatr yn cynnwys Road (Bloomsbury Theatre), a For All I Care (National Theatre Wales) ac ar y teledu, Hinterland a Keeping Faith. Mae wedi gwneud gwaith byrfyfyr gyda The Groundlings ac UCB Theatre yn Los Angeles.