Francesca Goodridge
Mae Francesca Goodridge yn actor, coreograffydd a chyfarwyddwr. Hyfforddodd yn y Liverpool Institute for Performing Arts (LIPA), mae wedi bod yn rhan o Gynllun Hyfforddi Theatr Clwyd Carne ar gyfer Cyfarwyddwyr yng Nghymru ac arferai fod yn Gyfarwyddwr Dan Hyfforddiant gyda The Other Room Theatre yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith cyfarwyddo yn cynnwys The Crocodile (Cornerstone Theatre), BARK! The Musical (Gŵyl Fringe Caeredin), Adam, Eve and Steve (The Kings Head Theatre), Shout! The Mod Musical (The Royal Court Theatre, Lerpwl) a Secret The Musical (Epstein Theatre). Fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn Theatr Clwyd, mae ei gwaith yn cynnwys A Christmas Carol, Pavilion, Wave Me Goodbye, Dick Whittington a The Importance of Being Earnest.