Carys Jones
Mae PRIDD yn gwmni theatr newydd yng Nghymru sydd wedi cael ei ffurfio gan Alwen Blandford (RNCM) a Carys Jones (UEA). Magwyd y ddwy yn yr Wyddgrug cyn gadael i astudio a nawr maent wedi dod at ei gilydd i ddathlu eu profiad ar y cyd o gael eu magu wedi’u hamgylchynu gan ddiwylliant gwerin Cymru. Nod PRIDD yw adrodd straeon dwyieithog sy’n cynnwys traddodiad, iaith a cherddoriaeth Gymraeg. Fel rhan o’r cyfnod preswyl hwn, byddant yn datblygu eu darn theatr, Enya, stori wedi’i hysbrydoli gan y chwedl The Fire Bird.