Betsan Llwyd
Y tro cyntaf i Betsan droedio llwyfan Theatr Clwyd oedd yn dawnsio rôl y Sleeping Beauty nôl ddiwedd y 1970au a hithau’n ddisgybl yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug. Dros y blynyddoedd, yng Nghlwyd, mae wedi gweithio gyda Kowt-Howson (Full Moon), Tim Baker (Drowned Out), Terry Hands (Pygmalion) a Kate Wassenberg (Salt, Root and Roe). Mae’n wyneb cyfarwydd yn y theatr ac ar y sgrîn yng Nghymru, ac wedi ennill Gwobr Ryngwladol yr Actores Orau, (Un Nos Ola Leuad), a 2 Wobr BAFTA Cymru (Y Wisg Sidan, Y Tŵr). Ers rhai blynyddoedd bellach mae wedi bod yn gweithio fel Cyfarwyddwr Artistig gyda Cwmni Theatr Bara Caws, a’n ddiolchgar iddyn nhw am ei ‘rhyddhau’ hi am gyfnod i ddychwelyd i Gymru…