Archipelago
Mae Archipelago yn gwmni theatr cenedlaethol cydweithredol. Mae ei waith yn ymwneud â beth mae’n ei olygu i fod yn berson yn byw ar yr ynys fechan yma. Mae’r artistiaid sy’n rhan o’r cwmni wedi’u lleoli ar hyd a lled y wlad. Mae eu gwaith yn pontio genres, arddulliau a ffurfiau celf, ond yn unedig o dan faner gwaith gwleidyddol newydd, byw, sy’n cynnig noson dda iawn i’r gynulleidfa. Mae wedi ymrwymo i gynhwysiant, hygyrchedd ac ymgorffori cymunedau wrth galon eu harferion. Mae’r gwaith yn lleol ac yn genedlaethol; mewn sgwrs â’i gilydd a’r wlad.