Y Dewis at Holywell Library

Past Production

See dates and times  

Gêm llawn dewisiadau yw bywyd.

Profwch y gêm sinematig lle mai chi sy’n dewis sut y bydd y stori’n mynd.

Ymunwch â’n gwesteiwyr, cyflwynydd byw a’r llefarwr ar y sgrin, Natura. Gyda’i gilydd fe fyddant yn eich cludo o amgylchedd cyfarwydd Yr Wyddgrug i ben clogwyni epig Ynys Môn. Yno, bydd pedwar person ifanc, pob un â’i stori i’w dweud, yn cyfarfod yng ngwaith brics hardd, adfeiliedig Porth Wen.

Ysbrydolwyd y profiad newydd hwn gan Jones y Ddawns, gan storïau pobl ifanc ar draws Cymru, yn archwilio beth mae’n ei olygu i fod yn ceisio deall nhw eu hunain yn y byd sydd ohoni heddiw. Mae’r ffilm yn bersonol, ac eto yn epig a sinematig, gan blethu Saesneg, Cymraeg a BSL. Gyda’i chymysgedd o ddawns a stori, y cyfan ar gefnlen naturiol eithriadol sy’n cwmpasu gorffennol diwydiannol, mae’n ddathliad o Gymru, dawns Cymru a gobaith pobl ifanc.

Crëwyd a chyfarwyddwyd gan Gwyn Emberton.


EI DEIMLO

Fel rhan o Y Dewis, mae’r rhai sy’n prynu tocyn yn cael cyfle i ddysgu ychydig mwy am y ffilm, mewn gweithdy hwyliog a rhwydd, ychydig cyn y sioe. Cewch gyfle i roi cynnig ar ychydig o’r coreograffi yn y ffilm. Bydd y gweithdai’n para 30 munud ac yn cychwyn un awr cyn Y Dewis.

Mae’r gweithdai’n ddelfrydol i deuluoedd, yn addas i bob oed a gallu ac ni fyddant yn rhy galed. Byddant yn cael eu harwain gan y Ddawnswraig Amber Howells/y Cyfarwyddwr Ymarfer Eli Williams/y Coreograffydd Gwyn Emberton

Ysbrydolwyd Y Dewis gan storïau pobl ifanc ar draws Cymru, ac mae wedi ei greu a’i gyfarwyddo gan y Cymro a’r Coreograffydd a Chyfarwyddwr Artistig Jones y Ddawns, Gwyn Emberton.