Amser Stori yn Llyfrgell Treffynnon

Past Production

See dates and times  

Ymunwch â ni am stori’r Pasg arbennig iawn…

Hoffai’r storïwr anghofus adrodd stori hyfryd am anifeiliaid, trysor ac wyau … ond nid yw’n cofio’r stori i gyd!

Allwch chi ei helpu?

Chwiliwch yn y llyfrgell am yr wyau aur, y mae’r Gwningen Basg wedi’u cuddio, a helpwch i orffen y stori, yn y sioe agos-atoch, ryngweithiol hon am ddim i blant

5 – 10 oed a’u teuluoedd.

Mae’r stori’n para tua 30 munud ac wedi ei chreu gan y tîm yn Theatr Clwyd. Wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan Emyr John ac yn seiliedig ar “Quartet Of Bremen”

gan y Brodyr Grimm.

Tocynnau: Mae mynediad i’r digwyddiad hwn am ddim ond mae angen archebu tocyn

Holywell Leisure Centre, North Road, Holywell, Flintshire, CH8 7UZ