Tabea Debus: Principles of Nature

Past Production

Cyfres Cerddoriaeth Glasurol 2023

See dates and times  

Yn perfformio

Tabea Debus
Recorder

Toby Carr
Liwt

Sam Stadlen
Gamba

Rhaglen yn cynnwys

Purcell
Galarnad Dido Z. 626

Schmelzer
Sonata Cu Cu

Bach
Adagio/Allegro ac Adagio/Presto o Hortus Musicus Sonata


0 Stars

A charismatic virtuoso
The Times

Mae Tabea Debus wedi perfformio’n eang ledled y byd ac wedi astudio ym Mhrifysgol Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio Frankfurt a’r Academi Gerdd Frenhinol.

Mae hi wedi perfformio gweithiau newydd am y tro cyntaf yn LSO Soundhub ac yn Sound Unbound y Barbican Centre, ac wedi ymddangos fel unawdydd mewn concertos recorder cyfoes gyda’r WDR Rundfunkchor yn y Funkhaus yn Cologne a’r English Chamber Orchestra yn Neuadd Cadogan.

Mae hi wedi perfformio yn Neuadd Wigmore, yng Nghyfres Cerddoriaeth Gynnar Llundain, Caerefrog a San Francisco, y Festspiele Mecklenburg-Vorpommern, Musica Antiqua Bolzano, Gŵyl Ryngwladol Caeredin, a llawer mwy. Mae hi’n westai rheolaidd ar In Tune a’r Early Music Show ar BBC Radio 3, ac mae hi wedi rhyddhau chwe disg unigol hyd yma.

Mae ei gwobrau'n cynnwys Gwobr CAG / Richard S. Weinert am Arloesedd mewn Cerddoriaeth Glasurol, gwobr yr unawdydd yn y Festspiele Mecklenburg-Vorpommern a gwobr 1af yng Nghystadleuaeth Unawd Recorder Ryngwladol Cymdeithas y Chwaraewyr Recorder / Moeck yn Llundain.