Dim ond cusan cariad pur fedr dorri’r felltith hon
Mewn antur pantomeim cyffrous fydd yn binacl blwyddyn gron!
Cewch ganu a dawnsio o’ch sedd yn y babell fawr a chlyd,
I gyfeiliant gwledd roc a rôl Nadoligaidd orau’r byd.
Peidiwch ag oedi, ystyried nac aros, dewch yn llu
Prynwch eich tocynnau nawr, i osgoi felan y gaeaf du!
Mae ein panto roc a rôl arobryn yn ôl – yn fwy ac yn fwy trawiadol nag erioed!
Wedi’i ysgrifennu gan Christian Patterson (Robin Hood, Beauty & The Beast) o Gymru, ymunwch â ni am y caneuon roc, pop a soul gorau, ffrogiau ffrils, setiau syfrdanol a’r pypedau panto anarchaidd.
Am un flwyddyn yn unig bydd ein sioe mewn pabell syrcas enfawr, wedi’i gwresogi drws nesaf i’r theatr. Peidiwch â cholli panto teuluol y degawd!
Theatr Clwyd
Dyma ychydig o wybodaeth i'ch helpu chi i archebu lle i’ch ysgol!
- Tocynnau i ddisgyblion yn £10
- Yn anffodus ni allwn werthu tocynnau i rai nad ydynt yn ysgolion ar gyfer y perfformiadau hyn
- I staff rydym yn rhoi un tocyn staff am ddim am bob 20 disgybl
- Mae tocynnau staff ychwanegol yn £10 Pan fyddwch yn archebu eich tocynnau bydd angen talu blaendal o 10%
- Taliad llawn am docynnau yn ddyledus erbyn dydd Gwener 29 Medi
- Anfonir tocynnau ar e-bost
- Nid oes TAW gan mai perfformiadau i ysgolion yw'r rhain
Cysylltu â Ni
Cysylltwch â'n swyddfa docynnau ar (01352) 344101, neu e-bostiwch box.office@theatclwyd.com a gallwn eich ffonio'n ôl neu eich helpu gyda'ch archeb!
Date | Availability |
---|---|
Friday 08 December - 1:30pm | Fair |
Tuesday 12 December - 1:30pm | Limited |
Wednesday 13 December- 10am | Sold Out |
Wednesday 13 December - 2pm | Very Good |
Thursday 14 December - 1:30pm | Extremely Limited |
Tuesday 19 December - 1:30pm | Sold Out |
Wednesday 20 December - 10am | Extremely Limited |
Wednesday 20 December - 2pm | Very Good |
Thursday 21 December - 1:30pm | Fair |