Yn perfformio:
Max Baillie
Feiolin
Sinfonia Cymru
Rhaglen yn cynnwys.
Cyfuniad gwerin / clasurol o gerddoriaeth gan Bach, Haydn a Bartok yn gymysg â rhywfaint o gerddoriaeth werin o Gymru a Gwledydd Llychlyn.
(Rhaglen derfynol i'w chadarnhau)
A particular delightThe Times

Wedi graddio o Ysgol Yehudi Menuhin, Prifysgol Caergrawnt, ac UdK Berlin, mae'r feiolinydd a'r feiolydd Prydeinig-Almaenig Max Baillie yn hynod boblogaidd fel unawdydd, cerddor siambr, ac arweinydd cerddorfaol yn y DU a thramor.
Mae Max hefyd wedi perfformio gyda cherddorfa siambr y Swistir CHAARTS, Scottish Ensemble a’r Manchester Collective.
Mae bywyd cerddorol Max yn adlewyrchu ei ddiddordeb mewn croesbeillio arddulliau cerddorol. Mae’r artistiaid mae wedi gweithio â nhw yn cynnwys Steve Reich, Mischa Maisky, Bjork, John Williams, Thomas Adès, Bobby McFerrin, Zakir Hussain, James Thierrée, a llawer mwy. O alawon gwerin ym mryniau Cymru i wyliau mawr ledled y byd, mae Max yn byw bywyd deinamig sy’n cofleidio cerddoriaeth glasurol, byrfyfyr, cyfoes ac arbrofol.