Sage Todz
Daeth y rapiwr arobryn o Ogledd Cymru i fri ar ôl i glip fideo ohono’n perfformio Round a Rownd (Round & Round) fynd yn firaol, gan ddenu sylw miloedd ar filoedd ar draws y byd.
Mae catalog ei gerddor R&B yn rhedeg o draciau dril trawiadol i R&B llyfn wedi’i ysbrydoli gan trapsoul.
“Does yna’m rili caneuon drill yn y Gymraeg fyswn i yn dweud bod urban music a miwsig rap yn under-represented yn y sîn Gymraeg” Sage Todz
Ers hynny mae Sage Todz wedi cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar ac mae ei ganeuon diweddaraf Rownd a Rownd, O Hyd, Lost & Found, Aurum Noir a GSB wedi ennill 400,000 o ffrydiau ar Spotify.
Morgan Elwy
Cerddor a cyfansoddwr o Ddyffryn Clwyd sy’n adnabyddus am ei alawon bachog a geiriau cofiadwy. Bellach yn enw cyfarwydd ar draws Cymru mae ei set ddwyieithog o ganeuon reggea, pop a rock yn siwr yn lewnwi’r enaid hefo chwa o awyr iach.
Enillodd Morgan Elwy Can i Gymru 2021 gyda’i gân ‘Bach o Hwne’.
Mewn cydweithrediad â Focus Wales