Rhwygo, plygu a gwasgu!
Wrth i chi wasgu’r papur, tybed sut mae eich dychymyg yn dechrau dawnsio...
Plymiwch i fyd hudolus Club Origami, sioe ddawns ryngweithiol a chyfranogol sy'n gwahodd teuluoedd i greu, dychmygu ac archwilio ffyrdd cwbl newydd o feddwl, chwarae a symud. Mae dawns, ffasiwn a cherddoriaeth fyw yn cwrdd â hud origami i'n sgubo ni ar antur fywiog ac ysbrydoledig mewn gwlad sydd wedi'i chreu o ddim byd ond papur a chwarae.