Beatrice and Benedict

Past Production

Opera Canolbarth Cymru

See dates and times  

Mae Beatrice a Benedict ill dau yn benderfynol o aros yn sengl.

Mae Beatrice yn fenyw sy'n casáu dynion (yn enwedig Benedict) ac ni all Benedict oddef merched (yn enwedig Beatrice). Hynny yw, nes bod eu ffrindiau’n cynllwynio i ddod â nhw at ei gilydd a’r ddau, yn ‘ddamweiniol’, yn gorglywed sibrydion am angerdd y naill at y llall; mae gwreichion cariad yn cael eu tanio gan glecs ac yn datblygu’n gyflym yn dân gwyllt tanbaid.

Mae angerdd oes Berlioz dros Shakespeare yn amlwg drwy gydol ei sgôr wyrthiol, yn pelydru gyda chariad ac yn pefrio ag egni, ac yn cynnwys y ddeuawd nosol, ganolog enwog, y darn harddaf a ysgrifennodd Berlioz erioed efallai.

Opera Canolbarth Cymru