Mae Pedwarawd Adelphi yn cynnwys pedwar cerddor Ewropeaidd. Wedi'i sefydlu yn 2017 yn y Mozarteum yn Salzburg, astudiodd y pedwarawd gyda Phedwarawd Hagen.
Yn 2022 enillodd Pedwarawd Adelphi yr 2il Wobr a Gwobr Sefydliad Esterházy yng Nghystadleuaeth Pedwarawdau Llinynnol Rhyngwladol Neuadd Wigmore.
Rhaglen
- Haydn: String Quartet in C minor, op. 17 No. 4
- Bridge: 3 Idylls for String Quartet, H67 (1906)
- Purcell: Fantasias in 4 parts
- Britten: String Quartet No.2 in C, Op.36 (1945)