Diweddariad COVID

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar yn cyflwyno pellter cymdeithasol i helpu i leihau lledaeniad Covid a'r amrywiad Omicron rydym wedi cael ein gorfodi i ganslo nifer o ddigwyddiadau sydd ar ddod.

Mae symud o berfformiad sydd wedi gwerthu allan i un lle prin y byddai chwarter y rhai a archebwyd yn gallu gwylio yn ein gadael mewn sefyllfa amhosibl. Rydym hefyd, wrth gwrs, yn rhoi diogelwch ein cynulleidfaoedd, ein cwmni actio a'n tîm yn gyntaf.

Gyda hyn mewn golwg, ni fyddwn bellach yn gallu rhannu’r sioeau hyn, ac rydyn ni i gyd wedi gweithio mor galed i ddod â nhw i’n cynulleidfaoedd anhygoel a ffyddlon. Mae'r cyfnod cau yma wedi cyrraedd ar adeg pan oeddem ni a gweddill y diwydiannau creadigol yn dechrau codi nôl ar ein traed yn dilyn aflonyddwch yr 20 mis diwethaf a bydd eu heffaith yn ddinistriol i bob un ohonom - ein cynulleidfaoedd, ein hactorion, pobl greadigol a thimau cefn llwyfan, ein cwmnïau cymunedol a'n staff. Y peth sy'n ein cadw ni i fynd ar hyn o bryd yw'r negeseuon cynnes o gefnogaeth rydyn ni eisoes wedi'u derbyn ac rydyn ni'n gwybod y byddwn ni’n dod trwy hyn gyda'n gilydd.

Byddwn yn cysylltu â phawb yr effeithir arnynt i rannu ein camau nesaf. Byddwn, fel bob amser, yn cynnig opsiynau o ad-daliad llawn i gynulleidfaoedd, tocynnau ar gredyd gyda'r theatr i'w defnyddio yn y dyfodol, neu roi rhodd.

Mae hwn yn amser hynod o brysur i'r theatr a gyda nifer helaeth o bobl i gysylltu â nhw, gofynnwn am eich amynedd wrth i ni brosesu pob archeb. Nid oes angen cysylltu â'n swyddfa docynnau - byddwn mewn cysylltiad cyn gynted ag y gallwn.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus a'ch cariad at y celfyddydau.

Newidiadau Diweddaraf i’n Rhaglen

Nid oes angen cysylltu â’n swyddfa docynnau – byddem ni mewn cysylltiad â chi i drefnu unrhyw gyfnewidiadau ac ad-daliadau – cyn gynted a byddem yn clywed am unrhyw newidiadau i’n rhaglen.

Perfformiadau wedi’u Canslo:
  • Beauty & The Beast o 25 Dec
  • Sinfonia Cymru & Lucienne Renaudin Vary
  • Dragons and Mythical Beasts
  • Mark Watson: This Can't Be It