Yn galw ar bob dylunydd tŷ sinsir

Yn galw ar bob dylunydd tŷ sinsir ar gyfer cynhyrchiad Theatr Clwyd o A Christmas Carol.

Hoffech chi i’ch Tŷ Sinsir gael ei gweld yn sioe Theatr Clwyd?

Yr oll sydd raid i chi ei wneud yw:

Adeiladu ac addurno Tŷ Sinsir a thynnu llun a’i anfon i’r Cynhyrchydd Cymunedol.

Cewch wedyn eich gwahodd i ddod a’ch Tŷ Sinsir i Theatr Clwyd ble cawn nhw eu gweld yn y cynhyrchiad neu o fewn ardaloedd blaen tŷ Theatr Clwyd.

  • Dyma her Tŷ Sinsir, felly mae’n rhaid i’r tŷ gael ei adeiladu o sinsir.
  • Cewch ddefnyddio unrhyw rysáit sinsir yr hoffech.
  • Caiff y tai sinsir eu beirniadu ar addurniad (a’u gwaith adeiladu)
  • Rhaid i bob dylunydd gyflwyno eu tai sinsir erbyn 10fed o Ragfyr,

Os oes gennych unrhyw gwestiynau – gofynnwch i Alice Evans, ein Cynhyrchydd Cymunedol ar: alice.evans@theatrclwyd.com neu drydar @ClwydTweets