Sesiwn Holi ac Ateb Ailddatblygiad Theatr Clwyd 2

Eisiau cael gwybod mwy am ein gwaith ailddatblygu?

Eisiau gweld y cynlluniau a'r dyluniadau?

Eisiau dysgu mwy a rhannu eich meddyliau?

Rydym yn dechrau ar gam olaf yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer ein prosiect ailddatblygu nodedig lle bydd ein hadeilad 45 oed yn cael ei adnewyddu a'i atgyweirio'n helaeth, ynghyd â gwelliannau sylweddol i sicrhau ei fod yn adeilad gwyrddach sy'n defnyddio ynni'n fwy effeithlon.

Mae'r cam olaf hwn yn dilyn ymgynghoriad helaeth yn 2019 a bydd yn cynnwys delweddau dylunio wedi'u diweddaru gan y penseiri Haworth Tompkins. Mae'r digwyddiadau digidol am ddim, agored i bawb yma ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cael gwybod mwy.