Lleoliadau Prifysgol Glyndwr. Ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn, rydym yn gallu cynnig 1 i 2 leoliad mewn maes arbennig o ddiddordeb. Mae hwn yn agored i Fyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr yn unig ac yn ddi-dâl. Cofiwch, bydd gan bob adran amseroedd gwahanol y byddant ar gael i gynnig lleoliad. I gofrestru eich diddordeb, cyflwynwch eich hun – dywedwch ychydig wrthym am bwy ydych chi, a pham fod gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn/Theatr Clwyd. Byddwn yn derbyn hwn mewn unrhyw fformat sy'n gweithio orau i chi. (Cyswllt fideo byr, portffolio, crynodeb creadigol neu CV a Llythyr Eglurhaol). Gwnewch yn siŵr bod fformat y cais rydych chi’n penderfynu ei anfon atom ni’n dangos sut byddech chi’n cyd-fynd â’r cyfle sydd wedi cael ei hysbysebu.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau presennol:
Lleoliad Theatr Technegol Dydd Gwener 3ydd Mawrth 2023 Lleoliad Celf Golygfaol Dydd Gwener 31ain Mawrth 2023 |