Bydd Gŵyl Ysgolion yn cael ei chynnal rhwng
Bydd Gŵyl Ysgolion yn cael ei chynnal rhwng dydd Mercher 5 Gorffennaf a dydd Iau 6 Gorffennaf 2023
Ein thema ni ar gyfer yr Ŵyl Ysgolion yw ‘Rhannu Straeon o amgylch y Byd.’
Rydyn ni’n chwilio am 6 ysgol i gymryd rhan.
Ar gyfer yr Ŵyl Ysgolion, byddwn yn dathlu Taith Gyfnewid Ieuenctid Japan a’r berthynas ehangach â Japan. Yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, mae’r daith gyfnewid wedi gweld pobl o Ysgolion Japan a Sir y Fflint yn cysylltu ac yn teithio i’r ddwy wlad. Rydyn ni wedi dechrau casglu atgofion a straeon am y daith gyfnewid, sydd i'w gweld yma.
Cwestiynau Cyffredin yr Ŵyl Ysgolion
- Beth mae cymryd rhan yn yr Ŵyl Ysgolion yn ei olygu? Byddwn ni fel Theatr Clwyd yn cefnogi pob ysgol gydag artist creadigol a fydd yn gweithio gyda chi i greu rhywbeth arbennig. Bydd y prosiect yma’n para 10 wythnos a hoffem gael ysgolion sy'n barod i ymrwymo i'r bartneriaeth yma. Rhowch gyfle creadigol i'ch pobl ifanc gyda Theatr Clwyd...
Pryd mae’r Ŵyl Ysgolion yn cael ei chynnal?
- Bydd Gŵyl Ysgolion yn cael ei chynnal rhwng dydd Mercher 5 Gorffennaf a dydd Iau 6 Gorffennaf 2023
Beth mae'r bartneriaeth hon gyda Theatr Clwyd a'ch Ysgol yn ei olygu?
- Mae'r cyfle hwn yn agored i Ysgolion Cynradd Sir y Fflint ym Mlwyddyn Ysgol 5 + 6. Byddwn yn gweithio gydag un dosbarth o hyd at 30 o bobl ifanc. Yn ddelfrydol, mae angen mynediad i ystafell ddosbarth un diwrnod yr wythnos. (Llun 17 Ebrill - Gwe 30 Mehefin) Er mwyn gwneud y bartneriaeth hon yn llwyddiant, bydd angen ymrwymiad cryf tuag at y prosiect.
Ble mae’r Ŵyl Ysgolion yn cael ei chynnal?
- Oherwydd ein hailddatblygiad cyffrous, cynhelir y perfformiadau ar ein llwyfan awyr agored cyffrous
Faint o Ysgolion sy'n cymryd rhan?
- Dim ond lle i 6 ysgol ar draws Sir y Fflint sydd gennym ni i gymryd rhan
Sut mae gwneud cais ar gyfer fy Ysgol?I wneud cais, llenwch y ffurflen gais.
- I wneud cais, llenwch y ffurflen gais.
Sut arall all fy ysgol ymwneud â Theatr Clwyd?
- I gael rhagor o wybodaeth am sut gall eich ysgol gymryd rhan gyda Theatr Clwyd, ewch i
Schools Fest 23 Timeline
Activity / Gweithgarwch a Dyddiadau | ||
---|---|---|
Applications Close / Ceisiadau'n Cau | Fri 17th Feb | |
Schools Confirmed / Yr Ysgolion wedi eu Cadarnhau | Fri 31st March | |
Artists Visits in School / Ymweliadau Artistiaid yn yr Ysgolion | Mon 17th April - Fri 30th June | |
All paperwork submitted / Yr holl waith papur wedi'i gyflwyno | Mon 5th June | |
School Fest Performance Week / Wythnos Perfformiad yr Ŵyl Ysgolion | Mon 3rd July - Thurs 6th July |
I gofrestru a chadarnhau eich Ysgol i gymryd rhan, llenwch y ffurflen isod a dywedwch wrthym pam eich bod eisiau bod yn rhan o'r stori yma:- gweiadur.
(Cofiwch, dim ond 6 ysgol yn Sir y Fflint fyddwn ni’n gallu eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth am sut gall eich ysgol gymryd rhan gyda Theatr Clwyd, ewch i.)