Mared
Cantores, artist ac actor yw Mared, sydd yn rhannu ei hamser rhwng Llundain a Llannefydd. Daeth ei halbwm cyntaf, Y Drefn’, allan yn Awst 2020 gyda label I KA Ching, yn gymysgedd o werin, pop a jazz. Cafodd ei henwi yn Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2021 gan yr Eisteddfod, mewn partneriaeth gyda BBC Radio Cymru. Mae’r albwm yn gasgliad o ganeuon gonest a hiraethus, wedi eu hysgrifennu dros gyfnod o 7 mlynedd. Ers iddi ryddhau’r albwm, mae Mared wedi bod yn gigio efo’r grwp ‘Welsh of the West End’ ledled y wlad, yn ogystal ac ail ymuno gyda chast West End Les Miserables fel understudy Eponine yn Llundain, rhwng Medi 2021-22. Daw EP newydd Mared allan yn Mehefin 2022, yn gyfanwaith o ganeuon iddi gydsgwennu gyda Nate Williams dros y cyfnod clo.