Croeso i Aelodaeth

Diolch yn fawr am ddod yn un o Aelodau cyntaf Theatr Clwyd - rydym yn falch dros ben eich bod chi wedi penderfynu ymuno â ni!

Gydag Aelodaeth gallwch gael y seddi gorau am y prisiau gorau trwy archebu tocynnau cyn pawb arall!

Rydym yn credu fod y gymuned yn eistedd wrth galon Theatr Clwyd. Ein cenhadaeth yw bod yn borth creadigol sy’n ennyn diddordeb ac yn ysbrydoli ein cynulleidfaoedd a’n cymunedau, boed hynny trwy gynhyrchu theatr o’r radd flaenaf, meithrin talent newydd a thalent sy’n datblygu, neu ddarparu prosiectau iechyd a lles, cymunedol, ac ieuenctid arloesol.

Fel Aelod o Theatr Clwyd, byddwch chi’n rhan bwysig o’n cast cefnogol, ac yn helpu i ddod â’r genhadaeth hon i fywyd, a phob tro rydych chi’n dewis treulio’ch amser gyda ni, rydych chi’n gwneud hynny! Bydd eich cerdyn aelodaeth newydd yn barod ar eich cyfer yn y swyddfa docynnau. Gallwch ddechrau mwynhau eich manteision aelodaeth ar unwaith.

Buddion Aelodaeth:

  • Blaenoriaeth wrth archebu’r panto
  • Archebu blaenoriaeth
  • 5% ychwanegol oddi ar danysgrifiad
  • Gostyngiad o 10% yn y siop/bar/bwyd
  • Digwyddiad blynyddol i aelodau
  • Cylchlythyr yr Aelodau
  • Ardal aelodau ar-lein

Yn syml, mewngofnodwch i’ch cyfrif er mwyn i chi fedru archebu tocynnau yn defnyddio ein system archebu â blaenoriaeth i Aelodau, a hawlio eich dau docyn sinema am ddim; ar ben hynny, bydd yr holl ostyngiadau i Aelodau ar nwyddau yn cael eu hychwanegu’n awtomatig wrth i chi ychwanegu eitemau i’ch basged, felly gallwch brynu rhaglenni ar gyfer sioeau ymlaen llaw. Ac mae mwy; cadwch lygaid ar eich e-byst am wahoddiadau i ddigwyddiadau i Aelodau ac am ein e-gylchlythyr rheolaidd i Aelodau, sy’n llawn gwybodaeth ac erthyglau i aelodau.

Unwaith eto, diolch yn fawr am ddod yn Aelod o Theatr Clwyd ac am ymuno â’n cymuned o gefnogwyr, sy’n tyfu’n gyson. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi’n fuan! Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni drwy e-bostio members@theatrclwyd.com

*Cyfeiriwch at ein telerau ac amodau am fanylion llawn o’r eitemau sy’n cael eu cynnwys yn y gostyngiad/gostyngiadau i Aelodau.