1894. Mae Watson ar ei ben ei hun. Mae ei wraig annwyl Mary a Sherlock Holmes wych ill dau wedi mynd. Ond mae Llundain yn llawn adroddiadau ffug a sïon. Mae'n amser rhoi trefn ar bethau.
Felly mae Watson yn adrodd ei stori... stori am gyfrinachau, brad a marwolaeth sydd wedi'i chelu ers amser maith. Oherwydd mae cysgod yng ngwterydd Llundain. Mae gwe pry cop o gynllwyn gwenwynig yn gorwedd ar draws y ddinas. Mae rhywun yn chwarae gêm hir ac mae Holmes a Watson yn wynebu eu her fwyaf erioed.
Ond wrth i Watson ddatod y stori, ydi'r gêm ar ben mewn gwirionedd?