Yn gwisgo gŵn nos fudr, mewn cegin wledig, mae Violet yn gwenu o’r diwedd. Ers blynyddoedd lawer, mae ei threfn ddyddiol flinedig yn cael ei rheoli gan daro cyson Cloc y Tŵr – ond un noson mae hi’n teimlo amser yn cyflymu.
Yn sydyn, mae awr yn mynd ar goll – bob dydd. Wrth i’r oriau ddiflannu, mae’r hyn a fu’n sicr ers cyhyd yn anweddu, a chymdeithas drefnus yn mynd ar gyfeiliorn. Gyda thrigolion y dref mewn argyfwng, a fydd Violet yn gallu dianc o’r diwedd?
Gan gyfuno talentau arobryn yr awdur Alice Birch (mae ei haddasiadau ar gyfer y teledu’n cynnwys Normal People; ffilm Lady Macbeth; llwyfan Anatomy of a Suicide) a’r cyfansoddwr talentog Tom Coult (comisiynwyd gan Noson Gyntaf y Proms; ar hyn o bryd mae’n gyfansoddwr preswyl gyda Cherddorfa Ffilharmonig y BBC), mae hon yn opera ar gyfer, ac am, ein dyddiau ni.
Bell Sounds wedi'i greu gan Jasmin Kent Rodgman
Music Theatre Wales | Britten Pears Arts | London Sinfonietta
Cyd-gynhyrchiad gan Music Theatre Wales a Britten Pears Arts.
Cynhyrchiad wedi ei lwyfannu mewn cysylltiad â’r London Sinfonietta.
Comisiynwyd gan Music Theatre Wales a Britten Pears Arts mewn cysylltiad â Theater Ulm

Croeso nol!
Os ydych chi'n newydd i Theatr Clwyd neu heb ymweld â ni ers tro ac yn chwilio am fwy o wybodaeth cyn eich ymweliad - o sut i gyrraedd yma i archebu tocynnau, o hygyrchedd i archebu eich diodydd egwyl o flaen llaw - yna cliciwch yma!
Adolygiadau
- Violet is the best new British Opera in yearsThe Telegraph
- A harrowing night out, but gripping.The Times
- There is real assurance about every gesture and texture, it’s tremendously accomplishedThe Guardian
- accomplished and fascinating new workThe Stage