Bydd Tomos Williams Trio yn chwarae set sy’n dod â threfniannau jazz amlwg, alawon gwerin Cymreig a baledau ynghyd. Yn defnyddio technegau electronaidd i greu awyrgylch, disgwyliwch i’r cerddorion creadigol hyn fynd â chi ar daith o fryniau Cymru i Efrog Newydd ac yn ôl.

Mae hwn yn ddigwyddiad ‘dod â’ch cadair eich hun’ – does gennym ni ddim seddau ar gael ar gyfer ein perfformiadau awyr agored, felly cofiwch ddod â chadair wersylla gyda chi os oes gennych chi un. Caniateir opsiynau eistedd eraill: rygiau, blancedi, matiau, stolion, gorseddi, soffas (ond mae’n syniad da glynu wrth yr opsiwn mwyaf symudol).


Covid

Gallwch brynu tocynnau yn hyderus gyda ni wrth i sioeau byw ddychwelyd – byddwn yn cysylltu os bydd unrhyw beth yn newid gyda’ch archeb, a byddwn yn gwneud yn siŵr bod eich ymweliad yn ddiogel, yn gyfforddus ac yn hwyl. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Mae'ch seddi wedi newid?

Ar hyn o bryd mae ein tîm gwerthu yn brysur yn symud archebion oherwydd newidiadau i reolau Covid. Os ydych wedi derbyn tocynnau newydd, byddwch yn dawel eich meddwl bod eich seddi newydd mor agos at eich archeb wreiddiol â phosibl. Os hoffech newid eich archeb, cysylltwch â ni ar ôl 1 Medi os gwelwch yn dda.