Tom Stade

Past Production

The High Road

See dates and times  

The High Road

Gyda steil perffaith, a’i ymdeimlad arferol o ddrygioni, mae’r seren gomedi o Ganada yn mentro i lefydd does neb arall yn meiddio eu troedio. Fel y gwelwyd ar Michael McIntyre’s Comedy Roadshow a Live at the Apollo.

Yn ystod y cyfnod cythryblus yma, mae Tom wedi bod yn dysgu wrth fynd yn ei flaen ac yn ceisio cofio beth oedd yn bwysig cyn i gyfrifoldeb ac ofn ddod i’w ran. Mae wedi symleiddio ei fywyd; gwerthu ei dŷ (a'r rhan fwyaf o'i eiddo retro) a chychwyn ar ei rownd ddiweddaraf o sawl anffawd.

Ymunwch ag ef ar daith lle nad yw’n dal dim yn ôl wrth fynd i'r afael â phob math o faterion difrifol: Beth sydd gan Lovehoney i'w wneud â covid? Oes posib defnyddio Vicks Vapor Rub fel iraid? Pa mor bell fyddai eich ci chi’n mynd i'ch amddiffyn chi a beth mae Taid wir eisiau yn anrheg Nadolig?